Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Compostio Gartref
Defnyddio eich compost
- Cyflyru’r pridd: Palwch y compost i mewn i haenen uchaf y pridd, neu roi ychydig ohono ym mhob twll ar gyfer plannu, er mwyn gwella’r draeniad a helpu ffrwythlondeb.
- Cymysgedd potiau: Cymysgwch compost wedi ei hidlo gyda thywod siarp a phridd. Defnyddiwch fesurau cyfartal o bob un neu wahanol fesurau, beth bynnag sy’n addas i’ch planhigion.
- Tomwellt neu wrtaith uchaf: Gwasgarwch haenen denau o amgylch planhigion er mwyn cadw lleithder a bwydo’r planhigion.
Sut mae gwneud compost gartref
Ar ôl ichi gymryd y camau hawdd a phrynu bin compost, dyma'r hyn sy'n digwydd i'ch gwastraff ar ôl ei ddodi ynddo.
- Cynnyrch pydru naturiol trwy fodau bach, bacteria a mwydod yw compost.
- Mae creaduriaid o'r fath yn cnoi gwastraff addas a'i droi'n wrtaith maethlon, heb fawn, ar gyfer pridd eich gardd.
- Dylai'r compost fod yn barod i'w ddefnyddio yn eich gardd ymhen 18 mis – 2 flynedd.
Cysylltiadau Compostio
Recycle Now (safle Saesneg yn unig)


