Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Compostio Gartref

SUT i…. arweiniad cam wrth gam ynglŷn â chompostio eich gwastraff gwyrdd 

Rhowch eich bin compost mewn lle cyfleus fel y gallwch fynd ato’n rhwydd. Bydd ei osod ar ben pridd yn galluogi pryfed buddiol i fynd mewn yn rhwydd, ond bydd yn gweithio’n iawn ar ben concrit, cyn belled â bod yna rywfaint o ddraeniad. 

Beth ddylwn i ei roi yn y bin, a faint?

O’r ardd gellir defnyddio bonion coedaidd, brigau, porfa a thoriadau gwrychoedd, gwair, dail yr hydref, blodau, baw a gwellt anifeiliaid anwes (llysysyddion fel bochdew neu gwningen).

Gellir rhannu eich deunyddiau bioddiraddadwy yn ddau sef deunyddiau sy’n ‘pydru’n gyflym’ a’r rhai sy’n ‘pydru’n araf’ … Rhowch y rhain i gyd i mewn gyda’i gilydd – does dim eisiau eu gwahanu!  Dyma’r ffordd orau o gael y cydbwysedd iawn (oddeutu 50% o bob un) o bethau sy’n pydru’n gyflym (mae’r rhain yn feddal ac yn wlyb) a phethau sy’n pydru’n araf (mae’r rhain yn galed ac yn sych). 

Awgrymiadau Buddiol:

  • Bob hyn a hyn rhowch ychydig o aer yn eich bin – trwy ddefnyddio fforch i godi neu gymysgu’r deunydd ac/neu ychwanegu rhagor o bapur a cherdyn wedi ei wasgu.
  • Bob tro yr ewch at y bin edrychwch i wneud yn siŵr nad yw’n rhy wlyb neu’n rhy sych. Os yw’n sych ychwanegwch ddeunydd gwlypach neu taenwch ychydig o ddŵr ar yr wyneb. Os yw’n wlyb ychwanegwch ddeunyddiau sych.
  • Gadewch i natur wneud ei waith a bydd gennych gompost o fewn blwyddyn neu lai (ymhen chwech i wyth wythnos gyda mwy o ymdrech).  
  • Torrwch eitemau mawr yn ddarnau bach er mwyn helpu i gyflymu’r broses.
  • Bydd eich Compost yn barod i’w ddefnyddio pan mae’n edrych fel pridd tywyll gydag arogl melys, priddlyd.  

Beth ddylwn i ddim ei roi ynddo? 

  • Cig, pysgod, cynhyrchion llaeth*
  • Bwyd wedi ei goginio neu ei brosesu (er enghraifft llysiau, bara)*
  • Gwreiddlysiau / ffrwythau *
  • Braster/olew (cymysgwch hwn gyda hadau a’i roi i’r adar)
  • Planhigion sydd â chlefyd
  • Gwreiddiau chwyn lluosflwydd (dant y llew, llysiau’r gymalwst, cwlwm y cythraul, clymog Siapan, dail tafol)
  • Planhigion gyda phennau hadau
  • Canghennau/boncyff mawr 
  • Baw anifeiliaid sy’n gigysyddion (er enghraifft cathod, cŵn)
  • Lludw glo
  • Deunyddiau nad oeddent erioed yn fyw
  • Cynnwys bagiau sugnydd llwch

* Gellir rhoi’r rhain mewn bocs bwyd gwastraff i’w casglu o ddrws i ddrws

Ewch i dudalen 4

Bookmark and Share