Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Compostio Gartref

"Pam y mae angen i mi gompostio pan fydd fy ngwastraff yn dadelfennu mewn safle tirlenwi beth bynnag?"

Pan anfonir gwastraff i safle tirlenwi, ni all yr aer gyrraedd y gwastraff gwyrdd organig. Felly wrth i’r gwastraff ddadelfennu mae’n creu nwy tŷ gwydr niweidiol, sef methan, sy’n niweidio atmosffer y Ddaear. Ond pan fydd y gwastraff hwn yn cael ei gompostio gartref uwch ben y tir, mae ocsigen yn helpu i bydru’r gwastraff yn aerobig sy’n golygu nad yw methan yn cael ei gynhyrchu o gwbl, sy’n newyddion da i’r blaned. Hefyd, ar ôl naw i ddeuddeg mis, fe gewch wrtaith rhad ac am ddim ar gyfer yr ardd a’r potiau i gadw’r planhigion yn hardd.

Beth am gompostio gwastraff bwyd?
Mae’n bosibl compostio gwastraff bwyd fel plicion llysiau, calonnau afalau, bagiau te a phlisgyn wyau yn eich gardd. Ond mae dulliau mwy cynaliadwy i drin y math hwn o wastraff ac i adfer ynni gwerthfawr ohono.

Yn yr un modd â gwastraff gwyrdd, os caiff gwastraff bwyd ei gladdu mewn safle tirlenwi mae’n creu methan. Pan gaiff methan ei ddal, gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu gwres a thrydan.  


Mae cynghorau ar hyd a lled Cymru yn cyflwyno gwasanaethau a fydd yn casglu gwastraff bwyd o’ch drws.
Wedyn bydd y gwastraff bwyd hwn yn cael ei anfon i gyfleuster trin gwastraff arbennig megis Treulio Anerobig. Mae’r dechnoleg hon yn defnyddio bacteria naturiol i ddadelfennu gwastraff bwyd heb ddefnyddio ocsigen. Mae hyn yn cynhyrchu bionwy y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu gwres a thrydan.

Ewch i didalen 3

Bookmark and Share