Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Hugh Fearnley-Whittingstall

'Glutney' - Rysáit gwych ar gyfer Siytni, gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol. (Gwneir 5 jar)

Ffynhonell: ‘The River Cottage Year’, cyhoeddwyd gan Hodder and Stoughton.

CYNHWYSIONHugh Fearnley-Whittingstall

675g Courgettes a madruddyn neu 675g o bwmpen, Wedi’u crafu a’i dorri i ddarnua 1cm.

675g Tomatos, heb eu crwyn ac wedi’u torri’n fan neu 675g o eirin wedi’u torri’n fan

675g Afalau wedi'u cleisio neu grebychu

250g Nionod, wedi crafu a’u torri’n fan

250g Syltanaiaid

250g Siwgr brown ysgafn

375ml Gwin gwyn neu finag seidr

200ml Dŵr

1-2 llwy de o naddion tshili wedi’u sychu

½ llwy de o halen

½ llwy de o sinsir wedi’i sychu

Bag sbeis - ½ llwy de, pupur du a hadau coriander

DULL

Rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban drwm. Gwnewch y bag spies drwy glymu’r darnau mewn sgwâr o fwslin. Adiwch i’r sosban gan ei wthio i’r canol.

Cynheswch yn raddol, gan droi’r cymysgedd ar adegau i doddi’r siwgr. Dewch a’r cymysgedd i’r brew ac yna ei fudferwi ar wres isel am awr, gan ei droi’n rheolaidd i osgoi’r gymysgedd losgi yn y gwaelod.

Mae’r Siytni’n barod pan yn dew ac wedi lleihau, a fo gwaelod y sosban yw gweld wrth droi’r gymysgedd. Os yw’n dechrau sychu adiwch ddŵr berwedig.

Rhowch y gymysgedd mewn potiau jam pan fo’n gynnes ond ddim yn ferwedig.