Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Wythnos Arbed Gwastraff Ewropeaidd

21ain - 29 ain Tachwedd 2009

WAGEDyma rywbeth newydd i'w nodi ar y calendr – Wythnos Arbed Gwastraff Ewropeaidd rhwng 21ain a 29ain Tachwedd. Nod yr wythnos yw hyrwyddo ffyrdd cynaladwy o arbed gwastraff a thynnu sylw at effaith y gwastraff rydyn ni'n ei greu ar yr amgylchedd a'r hinsawdd.

Cynllun 'Craff am Wastraff' sy'n trefnu gweithgareddau Wythnos Arbed Gwastraff Ewropeaidd yng Nghymru.  Byddwn ni'n gweithio ar y cyd ag Envirowise, Ymgyrch 'Cadwch Gymru'n Daclus' a mudiad Cylch i hyrwyddo'r syniad o arbed gwastraff ym mhob sector.

Nod yr wythnos yw rhoi gwybod i bobl pa mor haws a phwysig yw arbed gwastraff.

Rydyn ni'n bwriadu cynnal gweithgareddau codi ymwybyddiaeth Wythnos Arbed Gwastraff Ewropeaidd  ledled y wlad trwy'r wasg leol a chenedlaethol a'n gobaith ni yw y bydd y cyfryngau darlledu'n ymddiddori yn y pwnc.

Mae nifer o wledydd eraill megis Gwlad Belg, Estonia, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Sbaen a Sweden – yn ogystal â rhannau eraill o'r DG megis Llundain, dwyrain Lloegr, Belfast a'r Alban – yn bwriadu cynnal gweithgareddau yn ystod yr wythnos.

Hyd yma, mae swyddogion materion gwastraff yr awdurdodau lleol canlynol wedi dweud y byddan nhw'n cynnal o leiaf un gweithgaredd arbed gwastraff: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Tor-faen a Chasnewydd.

Yn ddelfrydol, fodd bynnag, hoffen ni hyrwyddo gweithgareddau bro i gyfleu gwir sefyllfa'r hyn sy'n mynd rhagddo ledled Cymru ynglŷn ag arbed gwastraff.

Felly, os ydych chi'n ymwneud â gweithgareddau arbed gwastraff, hoffen ni glywed amdanyn nhw!!

Syniadau am themâu'r gweithgareddau:

  • Caru Bwyd, Casáu Gwastraffdangos sut mae defnyddio olion bwyd i baratoi prydau blasus, rhoi cyngor am gadw bwyd ac argymell siopa'n ddoethach i osgoi prynu gormod o fwyd.

  • Diwrnod Siopa'n Ddoeth – bagiau mae modd eu defnyddio eto, osgoi prynu nwyddau mewn pecynnau (e.e. ffrwythau a llysiau), prynu nwyddau fydd yn para'n hirach.

  • Achlysuron cyfnewid – ffeiriau sborion, cylchoedd ailgylchu, cyfnewid llyfrau, gwerthu o gist eich car ym maes parcio'r swyddfa, diwrnodau rhoi a derbyn, cyflwyno a phrynu ac ati.

  • Rhoi nwyddau i'w defnyddio eto – Ailddefnyddio dodrefn, nwyddau trydanol eildro, siopau elusennau, cyfnewid gwisg ysgol ac ati (mae rhagor o wybodaeth ar: www.ddaydonate.charityshops.org.uk)

  • Arbed gwastraff gartref – cyngor am arbed gwastraff gartref, e.e. defnyddio batrïau mae modd eu gwefru, prynu Tupperware yn lle clingfilm a phapur arian ac ati.  Oes teuluoedd sy'n fodlon cymryd rhan mewn astudiaeth?

  • Gwrthod sgrwtsh – Gallwn ni roi gwybodaeth am faint o bobl yn eich ardal sydd wedi dewis dileu eu cyfeiriad o restrau postio.

  • Cewynnau Go Iawn – Cyfarfod coffi, cylchoedd o deuluoedd sy'n defnyddio cewynnau go iawn.

Osydych chi am gymryd rhan, cysylltwch â Swyddog Arbed Gwastraff Cynllun 'Craff am Wastraff'  i drafod eich syniadau.

Bookmark and Share