Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Anthony Warral Thompson
Stwnsh Merllys [Asbaragws], Cig Mochyn wedi’i Fygu, a Sialóts (pryd i 2)
Cafodd y ‘bubble and squeak’ gwreiddiol ei wneud o weddillion cig eidion a oedd wedi’i dorri’n fân a’i ffrio mewn saim gyda bresych, nionyn a thatws wedi’u stwnsio. Cofiwch bob amser adael i’r cymysgedd grimpio cyn ei droi drosodd. Heddiw mae’r "bubble" wedi colli ei "squeak" ac mae’n tueddu i fod yn ddim byd ond tatws, nionyn a bresych yn ôl y gofyn.
Rwy’n hoff o greu prydau allan o unrhyw fwydydd sydd dros ben yn yr oergell; defnyddio’r dychymyg a bod yn hyderus yw’r gyfrinach. Yn yr hen ddyddiau roedd y dywediad "Cadw dy afraid erbyn dy raid" yn golygu rhywbeth. Roedd rhaid i chi feddwl ymlaen llaw beth i’w brynu a’i goginio, a sut yn union y byddai’r gweddillion yn cael eu defnyddio. Mae cyfnodau o gyni yn perthyn i’r gorffennol erbyn hyn, ac nid ydym yn gwerthfawrogi cystal yw pethau nes ei bod yn rhy hwyr.
CYNHWYSION
1 garlleg clof wedi’i dorri’n fân
2 sialotsyn wedi’i dafellu’n ddarnau 1" (2.5 cm)
2 owns (50 g) o gig mochyn wedi’i ddeisio
1 llond llwy fwrdd o olew olewydd
1 llond llwy de o gaprau
8 blaen merllys wedi eu coginio a’u torri’n ddarnau 2 fodfedd (5 cm)
1 llond llwy fwrdd o ffrwythau olewydd du deisiog
1 llond llwy fwrdd o finegr balsamig
3 wy
halen a phupur du mâl
DULL
1. Ffriwch y garlleg, y sialóts a’r cig mochyn mewn olew olewydd mewn padell ffrio wrthlud (non-stick) hyd nes y byddant yn felyn. Ychwanegwch y caprau, y merllys, y ffrwythau olewydd a’r finegr, a’u poethi drwyddynt.
2. Curwch yr wyau a’u tywallt i gymysgedd y merllys. Trowch y gymysgedd hyd nes y bydd yr wyau wedi eu coginio fel rydych eu heisiau, ac yn edrych yn debyg i wyau wedi’u sgramblo.
3. Rhowch sesnin (seasoning) arno yn ôl y gofyn, a’i gyflwyno ar dost poeth gyda menyn.
Ken Hom - Reis wedi'i ffrio
Hugh Fearnley-Whittingstall - 'Glutney' (Siytni)

