Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Beth sy'n digwydd nesaf?

Plastig 

Ydych chi'n gwybod ei bod yn bosibl ailgylchu poteli pop plastig i wneud cotiau mân flew fel hon?  Defnyddiwch y chwiliadur i weld a allwch chi ailgylchu plastig yn eich ardal chi.

Mae angen 25 o boteli i wneud un got.

Sut maen nhw'n ei gwneud?   

  • Maen nhw'n casglu'r poteli ac yn mynd â nhw i ffatri.
  • Yno, maen nhw'n eu torri'n ddarnau mân ac yn eu twymo nes eu bod yn feddal.
  • Mae'r plastig meddal yn cael ei wthio trwy dwll bychan (fel past golchi dannedd) a'i oeri i'w droi'n edau mae modd ei gwau a'i brwsio. 

    Cot flew mon wqedi'i gwneud o boteli eildro

  • Ar ôl i'r edau gael ei gwau a'i brwsio, mae'r broses o wneud y got yn mynd rhagddi gan ddefnyddio edeifion eildro yn lle rhai newydd sbon.



Sut mae gwneud compost gartref

Ar ôl ichi gymryd y camau hawdd a phrynu bin compost, dyma'r hyn sy'n digwydd i'ch gwastraff ar ôl ei ddodi ynddo.

  • Cynnyrch pydru naturiol trwy fodau bach, bacteria a mwydod yw compost.
  • Mae creaduriaid o'r fath yn cnoi gwastraff addas a'i droi'n wrtaith maethlon, heb fawn, ar gyfer pridd eich gardd.
  • Dylai'r compost fod yn barod i'w ddefnyddio yn eich gardd ymhen 18 mis – 2 flynedd.