Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gwydr

Os rhowch chi wydr i'w ailgylchu:
- Mae'r poteli a'r jariau'n cael eu casglu o ymyl y pafin neu'r man ailgylchu.

- Mae'r cyngor yn didoli'r gwydr yn ôl y lliw ar safle'r amwynderau dinesig.
- Mae'n anfon y poteli a'r jariau i ganolfan ailbrosesu gwyr lle maen nhw'n eu glanhau ac yn eu torri'n ysgyrion.
- Maen nhw'n rhoi'r ysgyrion mewn ffwrneisiau poeth iawn i doddi'r gwydr.
Ydych chi'n gwybod bod angen llai o ynni i dwymo ysgyrion gwydr mewn ffwrnais na gwneud gwydr o'r newydd?
- Maen nhw'n defnyddio'r gwydr tawdd i wneud poteli a jariau newydd.
Ydych chi'n gwybod bod modd ailgylchu gwydr yn ddi-ben-draw? O'i ailgylchu, bydd yr adnodd yn para am byth. O fethu â'i ailgylchu, byddwn ni'n colli'r adnodd gwerthfawr yma am byth gan y bydd y rhan fwyaf wedi'i chladdu mewn tomenni. (Ffynhonnell: Wasteonline.org.uk)
Ffaith allweddol
Mae pob teulu yn y DG yn defnyddio tua 330 o boteli a jariau gwydr bob blwyddyn, ar gyfartaledd. (Ffynhonnell: British Glass)
Tudalen nesaf: plastig a chompost

