Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Beth sy'n digwydd nesaf?

Caniau alwminiwm 

Beth sy'n digwydd i'ch caniau alwminiwm ar ôl eu casglu a'u didoli?

  • Maen nhw'n tynnu'r paent ac yn rhwygo'r caniau.
  • Yna, maen nhw'n toddi'r carpiau mewn ffwrneisiau mawr.
  • Maen nhw'n bwrw'r metel tawdd yn ingotau.
  • Mae'r alwminiwm yn barod i'w ddefnyddio eto.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng caniau alwminiwm a dur?
Os nad ydych chi'n siwr, dodwch fagnet wrth y can.  Os yw'n glynu wrth y can, dur yw e.  Os nad yw'n glynu wrtho, alwminiwm yw e.  Mae caniau alwminiwm yn fwy meddal na'r rhai dur ac yn haws eu gwasgu.

Mae blychau ar wahân ar gyfer dur ac alwminiwm yn y mannau ailgylchu ac, felly, cofiwch roi'r caniau yn y rhai priodol.

Ffynhonnell: http://www.scrib.org/recycling_steel/steel_lifecycle.asp

Dolenni:
www.scrib.org
www.alupro.org.uk


Tudalen nesaf: gwydr