Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Beth sy'n digwydd nesaf?

Caniau dur 

Mae ailgylchu caniau dur yn ffordd wych o arbed adnoddau naturiol gwerthfawr.

Assorted cans



Beth sy'n digwydd i'ch caniau dur yn ystod eu hailgylchu?

  • Mae'r cyngor yn eu casglu o ymyl y pafin neu'r mannau ailgylchu ac yn mynd â nhw i'r safle amwynderau dinesig lleol i'w prosesu.

Ydych chi'n gwybod bod pris dur eildro yn uchel iawn?  Dyna reswm da dros beidio â'i daflu.
Ydych chi'n gwybod bod modd ailgylchu caniau dur dro ar ôl tro heb effeithio ar yr ansawdd?

  • Ar ôl ichi olchi'r caniau a mynd â nhw i'r man ailgylchu neu eu rhoi yn y blwch/bag/bin ailgylchu i'w casglu, maen nhw'n cael eu rhoi ar wahân i'r pethau eraill er mwyn mynd â nhw i'r ganolfan ailgylchu i'w didoli.

Ydych chi'n gwybod bod modd ailgylchu sawl math o ganiau?
Pam na rowch chi'ch caniau i gyd i'w hailgylchu?  Mae pethau megis chwistrelli diarogli, caeadau potiau jam a thuniau bisgedi yn addas, hefyd.

Steel sorting magnet

  • Gan fod y caniau dur yn glynu wrth ei gilydd, mae'n hawdd eu didoli oddi wrth y pethau eraill yn y ganolfan ailgylchu.  Yna, maen nhw'n gwasgu'r gwahanol fathau o becynnau dur ac yn clymu'r cyfan mewn sypiau i'w cludo i'r weithfa ddur.
  • Yn y weithfa, maen nhw'n dodi'r sypiau yn y ffwrnais ynghyd â'r dur arall y gallan nhw ei ailgylchu.  Maen nhw'n ychwanegu haearn tawdd ac ocsigen ac yn twymo'r cyfan am 1700 gradd C.
  • Maen nhw'n ffurfio'r dur tawdd, gan gynnwys eich can, yn slabiau mawr ac yn rholio'r rheiny'n droadau.  Mae'r dur yn barod i'w ddefnyddio ar gyfer pob math o bethau, bellach.
  • Gallai'ch hen ganiau fod yn rhan o filoedd o nwyddau megis beiciau, ceir, pontydd, clipiau papur, cledrau, llongau neu hyd yn oed ganiau newydd.

Tudalen nesaf: caniau alwminiwm