Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Beth sy'n digwydd nesaf?
Beth sy'n digwydd i'r pethau rwy'n eu rhoi i'w hailgylchu?
Papur

- Awdurdodau lleol, cwmnïau rheoli gwastraff neu fasnachwyr papur sy'n casglu'r papur o ymyl y pafin neu'r mannau ailgylchu.
- Maen nhw'n didoli'r papur fesul gradd. Mae diben gwahanol i bob gradd yn ôl yr ansawdd.
- Ar ôl ei ddidoli, maen nhw'n clymu'r papur mewn sypiau. Ydych chi'n gwybod bod dros 50 o raddau ar gyfer papur gwastraff?
- Maen nhw'n anfon y sypiau i felin bapur.
- Yn y felin, maen nhw'n glanhau'r papur trwy broses tynnu inc a'i falu i wneud 'uwd' lle gallan nhw gael gwared ar gemegion difwynol.
- Yna, maen nhw'n coethi'r ceinciau ac yn ychwanegu pethau i wella'r ansawdd.
- Mae'r hyn a dafloch chi yn barod i'w droi'n bapur, bellach.

Tudalen nesaf: caniau dur


