Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ffeithiau allweddol


Ailgylchu

  • Mae modd ailgylchu dros 60% o wastraff cartrefi. O ailgylchu gwastraff, byddwch chi'n helpu i gwtogi ar faint sy'n cael ei gladdu.

  • Mae pawb yn y DG yn taflu cymaint â phwysau ei gorff o sbwriel bob 7 wythnos.

  • Yn y DG, rydyn ni’n taflu miliwn o dunelli o decstilau bob blwyddyn. Dillad yw 500 o’r tunelli hynny, a gallen ni ailgylchu o leiaf 50% ohonyn nhw.


Ffeithiau am bapur

  • Mae pawb yn y DG yn defnyddio tua 200kg o bapur y flwyddyn ar gyfartaledd;
  • Papur a chardfwrdd yw 40% o'r gwastraff i'w ailgylchu wedi'i gasglu o gartrefi'r DG;
  • Bob tro rydyn ni'n ailgylchu tunnell o bapur newydd, rydyn ni'n arbed 17 coeden;
  • O ailgylchu papur, byddwn ni'n arbed bron 80% o'r ynni mae'i angen i wneud papur o ddeunyddiau crai;
  • Dim ond saith diwrnod mae'u heisiau i droi hen bapurau a chylchgronau'n rhai newydd sbon.


Ffeithiau am wydr

  • Rydyn ni'n claddu tua 14 miliwn o boteli a jariau gwydr yn y DG bob dydd. Mae pob teulu yn y DG yn defnyddio tua 330 o boteli gwydr y flwyddyn.  (Ffynhonnell: British Glass)
  • O ailgylchu potel/jar gwydr, byddwch chi'n arbed digon o ynni i ddefnyddio'ch cyfrifiadur am 20 munud;
  • Mae modd ailgylchu gwydr dro ar ôl tro – mae poteli wedi'u gwneud o wydr eildro cystal â'r rhai sydd wedi'u gwneud o ddeunyddiau newydd;
  • Mae hyd at 90% o boteli gwydr gwyrdd yn wydr eildro;
  • Mae'r gwydr rydyn ni'n ei ailgylchu yn y DG bob blwyddyn yn arbed digon o ynni i lansio 10 gwennol ofod;
  • Gallwn ni ailgylchu gwydr yn ddi-ben-draw.  O'i ailgylchu, gallwn ni ddefnyddio'r adnodd yma dro ar ôl tro.  O fethu â'i ailgylchu, byddwn ni'n colli adnodd gwerthfawr am byth gan y bydd y rhan fwyaf wedi'i chladdu mewn tomen.  (Ffynhonnell: Wasteonline.org.uk)