Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ffeithiau allweddol


Ffeithiau am ganiau

  • Mae caniau alwminiwm yn ysgafnach na'r rhai dur ac mae gwaelod can alwminiwm yn fwy sgleiniog.  Bydd magnet yn glynu wrth gan dur ond nid i un alwminiwm.
  • Bydd angen cymaint o ynni i wneud can o ddeunyddiau crai ag ailgylchu 20 o ganiau.
  • Mae pob cartref yn y DG yn defnyddio 600 o ganiau dur y flwyddyn ar gyfartaledd.
  • Mae pris dur eildro yn uchel iawn, a dyna reswm da dros beidio â thaflu caniau dur.  Mae modd eu hailgylchu dro ar ôl tro heb amharu ar yr ansawdd.
  • Y can diodydd alwminiwm sy'n cael ei ailgylchu fwyaf – mae dros 50% ohonyn nhw'n cael eu hailgylchu ledled y byd.
  • O ailgylchu can alwminiwm, byddwch chi'n arbed digon o ynni i wylio'ch set deledu am dair awr;


 

Ffeithiau am blastig

  • Rydyn ni'n taflu tua 455,000 o dunelli o boteli plastig yn y DG bob blwyddyn  – rhyw 9.1 biliwn o boteli.
  • Dim ond 25 o boteli plastig dau litr mae'u heisiau i wneud cot flew mân.
  • O ailgylchu potel blastig, byddwch chi'n arbed digon o ynni i ddefnyddio bwlb goleuo 60W am chwech awr.
  • Plastig yw tua 11% o wastraff ein cartrefi a photeli plastig yw 40% o hwnnw.
  • Dim ond ar ôl 500 mlynedd y bydd bag plastig yn pydru mewn tomen, ac rydyn ni'n defnyddio 500 miliwn ohonyn nhw bob wythnos yn y DG!
  • Mae tua 500 o boteli plastig mewn bwndel fel arfer, ac mae tua 20,000 o boteli plastig mewn tunnell.


Ffynhonnell: Waste Awareness Scotland