Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Poteli plastig
Yng Nghymru, rydyn ni’n defnyddio tua 724,500 o boteli plastig bob dydd. Mae modd ailgylchu’r rhan fwyaf i wneud pethau defnyddiol iawn. Dyma sut....
Bydd y poteli’n cael eu tynnu o’r sbwriel gan weithwyr neu beiriannau.
Yna, byddan nhw cael eu glanhau cyn cael eu didoli gan offer is-goch.
Bydd y poteli’n cael eu didoli yn ôl eu math o blastig cyn eu golchi a’u fflochennu.
Bydd ffatrïoedd yng Nghymru yn troi’r fflochiau’n haen blastig ar gyfer pecynnau a dolenni.
Mae rhagor o wybodaeth am y mathau o blastig mae modd eu hailgylchu ar: banklocator.wasteawarenesswales.org.uk.



