Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Papur
Yn y Deyrnas Gyfunol, rydyn ni’n defnyddio 12
Trwy ailgylchu papur, gallwn ni arbed ynni, cwtogi ar garbon deuocsid ac osgoi claddu papur gwastraff mewn tomenni lle bydd yn pydru ac yn creu nwyon tŷ gwydr
Dechrau proses ailgylchu papur yw ei gasglu
Yna, byddan nhw’n ei hidlo i dynnu clipiau, disgiau a sbwriel arall
Cyn ei lanhau a thynnu’r inc trwy ei droi mewn tanc pigfain
Byddan nhw’n ychwanegu cynhwysion i’w wynnu yn ôl yr angen cyn pwmpio’r cyfan (99% yn ddŵr ac 1% yn ffibr) ar y peiriant papur
Byddan nhw’n ei symud ar draws sgrin sy’n siglo i dynnu’r rhan fwyaf o ddŵr, gan adael y ffibrau y byddan nhw’n eu defnyddio i wneud papur, cardfwrdd neu bapurau newydd
Bydd y papur yn mynd trwy gyfres o roleri poeth mawr nes bod canran y dŵr yn gywir a’r trwch yn addas
Weithiau, byddan nhw’n rhoi wyneb gloyw neu afloyw ar y papur pan fo’n symud ar hyd y peiriant
Bydd y rholeri mawr yn cael eu rhannu’n riliau llai, eu pacio a’u storio cyn eu hanfon at yr argraffwyr i wneud rhagor o bapurau newydd


