Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Gwastraff yr ardd
Mae 14% o'n sbwriel yn wastraff naturiol o'r ardd
O'i gladdu mewn tomen, bydd yn gollwng methan – nwy tŷ gwydr sy'n deirgwaith ar hugain yn gryfach na charbon deuocsid
Yn ffodus, mae tua 95% o awdurdodau lleol y Deyrnas Gyfunol yn casglu gwastraff o'r ardd i'w gompostio
Pan ddaw'r gwastraff i'r safle compostio, byddan nhw'n tynnu unrhyw beth na allan nhw ei gompostio cyn falu'r gweddill a'i drefnu'n domen hir lle bydd yn pydru
Byddan nhw'n troi'r compost yn aml i roi ocsigen i'r bodau byw bychain sy'n ei dreulio
Wrth bydru, bydd tymheredd y gwastraff yn cyrraedd tua 60 gradd C sy'n lladd unrhyw heintiau, chwyn ac afiechydon planhigion
Ar y llaw arall, mae modd compostio gwastraff yr ardd gartref trwy ei gymysgu gyda phethau naturiol eraill megis croen llysiau a phecynnau grawnfwyd
Cysylltwch â chyngor eich ardal i gael gwybod a yw'n gwerthu biniau compost yn rhatach


