Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Poteli gwydr


Yn y Deyrnas Gyfunol, rydyn ni'n ailgylchu tua 60% o'n poteli gwydr ond – heb lawer o ymdrech – gallen ni ailgylchu cymaint â 90%.

Trwy ddefnyddio gwydr eildro, mae modd arbed ynni a deunyddiau crai, cwtogi ar garbon deuocsid a chladdu llai o wastraff.

Ar ôl i'r poteli gael eu casglu, eu tynnu o'r sbwriel arall a'u didoli yn ôl eu lliwiau, byddan nhw'n cyrraedd y cyfleuster prosesu i'w malu'n ysgyrion sy'n cael eu galw'n 'wydrach'.

Bydd y gweithwyr yn defnyddio magnedau, peiriannau sugno a didolwyr laser i dynnu unrhyw amhureddau o'r gwydrach.

Wedyn, byddan nhw'n cynhesu'r gwydrach at dros 1500 gradd C i'w doddi cyn ychwanegu rhai cynhwysion pwysig.

Yna, byddan nhw'n rhannu'r gwydr tawdd yn ddarnau mae modd eu chwythu neu eu gwasgu i wneud poteli a jariau newydd sbon. Gan fod gwydr yn ddeunydd gwych, gallwn ni ei ailgylchu'n ddiderfyn!