Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Bwyd gwastraff

 

 

Mae bwyd gwastraff yn effeithio'n fawr ar y newid hinsoddol achos y bydd y rhan fwyaf ohono'n cael ei gladdu mewn tomenni lle bydd yn pydru ac yn gollwng methan, un o'r nwyon tŷ gwydr niweidiol.

Byddai'n well mwynhau bwyd na'i wastraffu..... ond mae'n anochel y bydd peth gwastraff megis plisg wyau, croen bananas, esgyrn cig a physgod a bagiau te.

Mae pob cyngor yng Nghymru yn casglu bwyd gwastraff bellach. Mae dwy ffordd o drin y gwastraff:

  • Y naill yw gwrteithio caeedig  sy'n ymwneud â chymysgu gwastraff o'r gegin a'r ardd, ei falu a'i gadw mewn twnnel neu danc am bythefnos neu fis nes ei fod yn wrtaith.  Mae modd cyflymu'r broses a lladd unrhyw heintiau trwy ei gynhesu at 70 gradd C.  Yna, rhaid ei gadw am ryw fis neu ddau eto, gan ei droi'n aml a gwirio ei ansawdd cyn ei ddefnyddio i wella'r pridd.

  • Y llall yw treulio anaerobig sy'n defnyddio bodau byw bychain o'r enw 'methanogenau' i dreulio bwyd, baw anifeiliaid a chnydau ynni mewn tanc caeedig nad oes ocsigen ynddo.  Wrth bydru, fe fydd y cyfan yn gollwng nwy sy'n cael ei gasglu a'i ddefnyddio i gynhyrchu ynni, gwres neu danwydd cludiant.  Ar ben hynny, mae'n creu gwrtaith y gallwn ni ei ddefnyddio ar gyfer amaeth ac adfywio tir.

Bydd y cyngor yn casglu bwyd gwastraff eich cartref bob wythnos.