Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cartonau diodydd

 

 

Bob blwyddyn yn y Deyrnas Gyfunol, rydyn ni’n defnyddio tua 57,000 o dunelli o gartonau – sy’n pwyso’r un faint â 331 o forfilod gleision!

Yn ffodus, mae’n haws iawn ailgylchu cartonau diodydd bellach ac, felly, bydd llai’n mynd i’r domen.

Ar ôl tynnu’r cartonau o’r sbwriel sydd wedi’i gasglu, byddwn ni’n eu malu ac yn cymysgu’r darnau gyda dŵr mewn tanc sy’n debyg i beiriant golchi. Wedi troi’r cyfan am ryw bump awr, gallwn ni ei sychu a’i rowlio i wneud nwyddau papur megis amlenni a chloriau byrddau plaster.

Cyn dechrau’r broses honno, byddwn ni’n tynnu’r leinin plastig neu alwminiwm allan o bob carton a’i ddefnyddio i gynhyrchu ynni ar gyfer y felin. Mae modd ailgylchu’r cegau plastig i wneud rhagor o gegau plastig, hefyd.

Trwy wasgu’r cartonau cyn eu hailgylchu, gallwn ni lwytho llawer mwy fel na fydd eisiau cymaint o gerbydau i’w cludo nhw.

Gallwch chi weld a yw’ch cyngor chi’n ailgylchu cartonau diodydd ar: banklocator.wasteawarenesswales.org.uk.

Bank Locator QR Code