Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Caniau

 

 

Ailgylchon ni ryw 3.5 biliwn o ganiau alwminiwm yn y Deyrnas Gyfunol y llynedd.

Dyna ddigon i ymestyn o gwmpas y byd dros ddeng gwaith!

Dyma sut rydyn ni’n ei wneud…

Tynnu caniau o’r sbwriel naill ai â dwylo neu beiriant.

Yna, defnyddio magnedau i ddidoli’r caniau yn ôl eu math o fetel.

Ar ôl tynnu’r caniau dur, malu’r rhai alwminiwm.

Ffurfio’r darnau bach o alwminiwm yn flociau…

Rhoi’r blociau mewn ffwrnais a’u cynhesu at dros 750°C

Ychwanegu cemegion i wella ansawdd y metel tawdd cyn ei roi mewn mowldiau a’i oeri â dŵr i ffurfio ingotiau.

Mae’r ingotiau’n 10 metr o hyd, yn pwyso 27 o dunelli ac yn cynnwys digon o alwminiwm i wneud dros 1.5 miliwn o ganiau diodydd.

Yn y felin rowlio, maen nhw’n troi’r ingotiau’n llenni tenau iawn cyn eu hanfon i ffatri i’w defnyddio i wneud rhagor o ganiau allai fod yn ôl ar y silffoedd ymhen dim ond 6 wythnos!