Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Pecynnau
Yn ogystal ag ailgylchu, mae modd arbed gwastraff trwy ddefnyddio llai o becynnau. Mae'n syniad da defnyddio pecynnau y gallwch chi eu rhoi yn eich bin ailgylchu neu fynd â nhw i'r man ailgylchu agosaf yn lle rhai nad oes modd eu hailgylchu o gwbl.
Mae gwybodaeth am yr hyn y bydd eich awdurdod lleol yn ei dderbyn i'w ailgylchu ar dudalen 'Yn eich ardal' .
Yn y swyddfa:
Mae sawl modd arbed gwastraff yn y swyddfa. Dyma rai awgrymiadau:
• Prynu llaeth mewn poteli i'w dychwelyd.
• O archebu prydau bys a bawd yn aml, gofyn i'r rhai sy'n eu paratoi ddefnyddio llai o becynnau. Ar y llaw arall, beth am ofyn iddyn nhw roi llestri, cyllyll a ffyrc go iawn ichi fel na fydd cymaint o wastraff.
• O baratoi te a choffi mewn cyfarfodydd, ceisio arbed gwastraff a chostau fel ei gilydd trwy roi llaeth a siwgr mewn llestri yn lle'r blychau tafladwy. Gallwch chi gael dŵr yfed o'r tap yn lle prynu potelaid bob tro.
• Trwy fynd â chetris inc gwag yn ôl i'r siop i'w llenwi, mae modd arbed gwastraff a chostau fel ei gilydd. Mae rhai siopau deunydd ysgrifennu yn cynnig gwasanaeth o'r fath.
Yn yr Ysgol:
Wrth siopa:
• Prynu ffrwythau a llysiau rhydd i gwtogi ar becynnau diangen.
• Cario pethau adref mewn bag y gallwch chi ei ailddefnyddio.

