Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ailgylchu

Mae ailgylchu'n cwtogi ar y galw am ddeunyddiau crai. O adennill deunyddiau o hen nwyddau, fydd dim angen cloddio cymaint o ddeunyddiau crai.

Mae gwybodaeth am y pecynnau mae modd eu hailgylchu ar y wefan yma (dim ond yn Saesneg) on-pack-recycling scheme website.Dyma amcanion y cynllun:

  • helpu rhagor o gwsmeriaid i ailgylchu pecynnau;
  • helpu awdurdodau lleol a chyrff eraill i gynyddu ailgylchu o ran y deunyddiau nad ydyn nhw'n cael eu casglu na'u hailgylchu'n aml.

Os nad ydych chi'n ailgylchu'ch gwastraff, fe aiff i'r domen – sut wastraff!

Dyma'r ffigurau:

  • casglodd awdurdodau lleol Cymru 1.79 miliwn o dunelli o wastraff trefi yn 2007/08.

Ble mae'n mynd?

  • Mae 36% yn cael ei ailgylchu/gompostio - rydyn ni'n gwella ond mae rhagor i'w wneud.
  • Mae llai na 1% yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwres a thrydan.
  • Mae dros 63% yn cael ei gladdu o hyd. Dyw hi ddim yn gynaladwy trin sbwriel fel hyn am ein bod yn gwastraffu ynni a deunyddiau. Ar ben hynny, does dim digon o le.
  • Mae amcangyfrif mai dim ond am y 7 mlynedd i ddod y bydd digon o le i barhau i gladdu gwastraff yng Nghymru!

Potensial ar gyfer Compostio ac Ailgylchu Gartref (ffigyrau dangosol yn unig)Wrth gladdu sbwriel, rydyn ni'n colli adnoddau naturiol gwerthfawr ac yn gwastraffu costau'r ynni, y dŵr a'r cludiant wedi'u defnyddio i'w gynhyrchu yn y lle cyntaf.  Yr unig ffordd gynaladwy o ddatrys y broblem yw ailgylchu'n gwastraff.

Mae pethau'n cael eu casglu ym mhob cwr o Gymru i'w hanfon i gyfleusterau ailgylchu deunyddiau.  Gan fod pobl wedi glanhau deunyddiau o'r fath cyn eu bod yn cyrraedd y cyfleusterau, mae'n bosibl eu casglu fesul llwyth a'u cywasgu ymhellach cyn mynd â nhw i fannau i'w troi'n nwyddau newydd.  Po fwyaf o bobl sy'n ailgylchu gwastraff, mwyaf o ynni sydd i'w arbed yn lle ei ddefnyddio i gloddio deunyddiau crai.






Dolenni defnyddiol:

I gael gwybod rhagor am beth i'w ailgylchu a ble, defnyddiwch ein chwiliadur trwy roi'ch côd post ac enw'ch tref.

Rheoli Gwastraff Trefol

I gael gwybod pa wasanaethau 'ymyl y pafin' mae'ch cyngor yn eu cynnal, ewch at 'Yn eich ardal'.