Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi
Felly, beth am y pethau na chewch chi eu gadael i’w casglu oddi ar ymyl y pafin? Dyna’r rhai y byddwch chi’n eu taflu, fel arfer! Peidiwch â’u rhoi nhw yn y bin – ewch â nhw i’r ganolfan ailgylchu leol.
Efallai bod pentwr o hen bethau'n hel llwch yn y cwpwrdd, y garej, y to neu sied yr ardd nes eich bod yn penderfynu cael gwared arnyn nhw. Fydd dim eisiau eu gadael ar y domen. Bydd modd ailgylchu neu ailddefnyddio llawer o bethau os ewch chi â nhw i ganolfan ailgylchu gwastraff cartrefi'ch bro.
Dyma rai o'r pethau y bydd canolfan yn eu derbyn:
- Taclau trydan bychain megis peiriannau sychu gwallt, haearnau smwddio, raseli, radios a pheiriannau crynoddisgiau.
- Setiau teledu a 'nwyddau gwyn' megis oergelloedd.
- Llyfrau, crynoddisgiau a fideos (mewn rhai ardaloedd).
- Coed, batrïau, tecstilau, gwastraff yr ardd, metelau, hen olew coginio a llawer mwy.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein cronfa ddata:
Dyma bethau y cewch chi eu gadael mewn canolfan ailgylchu i'w defnyddio eto:
- Dodrefn
- Peiriannau trydan mawr megis ffyrnau, peiriannau golchi/sychu dillad ac oergelloedd.
Bydd y canolfannau canlynol yn derbyn pethau i'w hailddefnyddio:
- Cyngor Caerdydd Cyngor Sir Gâr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Cyngor Sir Ddinbych Cyngor Dinas Casnewydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gall gwasanaethau eich cyngor gwastraff cartref yn cael eu crynhoi yma


