Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Canllaw am gasglu bwyd gwastraff
Mae trin bwyd gwastraff yn flaenoriaeth achos mai 30% o'r sbwriel rydyn ni'n ei gladdu yw bwyd.
Pam mae bwyd gwastraff yn broblem?
Os rhoddwn ni fwyd yn y bin sbwriel, bydd yn cael ei gladdu mewn tomen. Wrth bydru yn y domen, fe fydd yn gollwng methan – nwy tŷ gwydr sy'n 23 gwaith yn gryfach na CO². Bydd y nwy'n sbarduno cynhesu byd-eang ac yn ychwanegu at berygl y newid hinsoddol.
Beth mae modd ei wneud?
- I ddechrau, dylech chi ddarllen ein cyngor am osgoi gwastraffu bwyd ar wefan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff
- Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwasanaeth casglu bwyd oddi ar ymyl y pafin, cewch chi fanteisio ar y gwasanaeth hwnnw i gael gwared ar unrhyw beth na allwch chi ei fwyta. Trwy wneud hynny, byddwch chi'n osgoi ychwanegu at y bwyd sy'n cael ei gladdu yn nhomen eich bro
- Os nad oes gwasanaeth o'r fath yn eich bro, gallwch chi gompostio rhai elfennau megis croen llysiau, creiddiau ffrwythau, bagiau te a phlisg wyau yn eich gardd.


