Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Canllawiau am ailgylchu mewn digwyddiadau
Diben y canllawiau yw helpu'r rhai sy'n trefnu digwyddiadau i sefydlu ailgylchu yn rhan o drefniadau rheoli gwastraff yno, ni waeth pa fath o ddigwyddiad yw e.
Mae digwyddiadau cyhoeddus yn creu llawer o sbwriel yn aml. Boed chwaraeon, gwyl gerdd neu orymdaith yn y stryd, bydd nifer sylweddol o bobl yn tueddu i adael cryn dipyn o sbwriel - deunyddiau a allai fod yn adnoddau gwerthfawr pe baen nhw'n cael eu hailgylchu.

O hyrwyddo gweithgareddau ailgylchu mewn digwyddiadau, bydd modd cadw adnoddau naturiol ac arbed taliadau claddu yn ogystal â rhoi gwell argraff o'r digwyddiad i'r cyhoedd. O ailgylchu'n briodol, fe ddylai fod yn bosibl hyrwyddo delwedd amgylcheddol gadarnhaol a chyfleu'r neges bod y rhai sy'n trefnu digwyddiad yn parchu'r lleoedd maen nhw'n eu defnyddio.
Mae'r llawlyfr yn awgrymu ffyrdd syml a chost-effeithiol o roi ailgylchu ar waith mewn digwyddiadau - gan gyflwyno fframwaith ar gyfer trefnu a chynnal dulliau rheoli gwastraff a rhaglenni ailgylchu yn effeithiol - ac yn dangos enghreifftiau o ddigwyddiadau sydd wedi cydio yn y syniad o ailgylchu.
I gael cymorth a chyngor i sefydlu cyfleusterau Ailgylchu Digwyddiadau cysylltwch â Ruth Llewellyn, 029 2051 9000 / 07817 64865, er bod y prosiect oes Ruth bellach a ariennir yn dal yn gallu darparu gwasanaethau talu i drefnwyr digwyddiadau.
Mae rhagor o wybodaeth am drefnu achlysuron yn gynaladwy ar wefan Croeso Cymru (dim ond yn Saesneg ar hyn o bryd).
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i bawb sy’n cynnal achlysuron o dan ei nawdd weithio yn ôl polisi ailgylchu yn eu hystod. Mae rhagor o gyngor a chanllawiau ar: http://www.cylch.org/Event_Recycling
Dyma’r wybodaeth i gyd am ailgylchu mewn achlysuron: Canllawiau Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau (pdf 550k)


