Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Electroneg

Tweet

Yn y DG, rydyn ni’n taflu gormod o hen offer trydanol. Y gwir yw bod pobl y deyrnas i gyd yn taflu tua miliwn o dunelli o hen offer trydanol bob blwyddyn. Dyna adnoddau gwerthfawr mae modd eu trwsio, eu defnyddio eto neu eu hailgylchu i wneud rhagor o nwyddau.  Dilynwch yr awgrymiadau isod fel na fyddwch chi’n anfon cymaint o hen offer trydanol i’r domen.

Sut mae hen offer trydanol yn cael eu hailgylchu?

 

 

Cynghorion

Os prynwch chi nwyddau newydd sbon i gymryd lle hen offer, gofynnwch i’r siop a fydd yn derbyn yr hen rai ar gyfer eu hailgylchu.

  • Ewch â thaclau trydanol i safle’r amwynderau dinesig – peidiwch byth â’u dodi yn y bin sbwriel.
  • Cewch chi drefnu i’r cyngor gasglu offer trydanol mawr megis oergell a pheiriant golchi.  Bydd rhai cynghorau’n gwneud hynny’n rhad ac am ddim, ond bydd eraill yn codi tâl.
  • Os prynwch chi nwyddau trydanol mawr, dylech chi drefnu i’r siop fynd â’r hen beiriant pan ddaw â’r un newydd i’ch cartref.  Bydd rhai siopau’n ailgylchu’r pecynnau ar ôl dod ag offer i’ch cartref, hefyd – dylech chi holi am hynny wrth eu prynu.
  • Cysylltwch â’r cynllun ailddefnyddio lleol i gael gwybod a fydd yn derbyn hen offer trydanol – efallai y bydd modd eu trwsio a’u rhoi i rywun arall.

Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y cyfleusterau sydd yn eich bro – gan gynnwys cynlluniau ailddefnyddio – trwy ddefnyddio’r chwiliadur ar www.wasteawarenesswales.org.uk/  Ar ôl rhoi côd y post neu enw’r dref ynddo, agorwch y ddewislen a chlicio ar ‘Nwyddau trydan’.

 

Gwastraff Trydanol ac Electronig hysbyseb deledu Offer Ailgylchu

(Saesneg yn unig)

Gwyliwch y animeiddio a darganfod pa mor hawdd yw hi i ailgylchu eich offer trydanol drylliog ar eich canolfan ailgylchu agosaf:

 

 

Sut i ailgylchu teledu

(dolen i wefan newyddion y BBC: 'Throw away Britain' - Saesneg yn unig)

Cliciwch ar y llun isod i wylio:

Television Recycling

 

Sut y gwastraff arall electronig yn cael ei ailgylchu

(dolen i wefan newyddion y BBC - Saesneg yn unig)

Cliciwch ar y llun isod i wylio:

WEEE Recycling

  

 

Bookmark and Share