Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Prynu nwyddau eildro
Dyw proses ailgylchu ddim ar ben nes bod y deunyddiau wedi'u troi'n nwyddau newydd ac mae'r nwyddau hynny wedi'u prynu.
Gallai'r pethau rydych chi'n eu rhoi i'w hailgylchu fod yn rhan o'r deunyddiau mae ffatrïoedd yn eu defnyddio i gynhyrchu nwyddau newydd. Mae amrywiaeth helaeth o nwyddau eildro ar gael, gan gynnwys papurau newydd, amlenni, papur ysgrifennu, nwyddau dur, biniau compost ac olew peiriannau. Er enghraifft, mae papurau newydd yn cael eu hailgylchu i wneud papurau newydd eto yn ogystal â phecynnau neu nwyddau arloesol megis deunydd inswleiddio. Mae caniau alwminiwm yn cael eu troi'n ganiau newydd ac mae o leiaf 25% o bob can dur wedi'i ailgylchu.
Mae nwyddau eildro ym mhobman, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, siopau crefftau cartref, canolfannau garddio, siopau deunydd ysgrifennu, argraffwyr, fferyllfeydd, gweithdai ceir, siopau bwyd cyfannol a siopau anrhegion.
Prynu nwyddau eildro wrth siopa:
Mae llawer o'r nwyddau eildro sydd ar gael bellach wedi'u gwneud o bethau roedden ni'n arfer eu hystyried yn sbwriel i'w gladdu mewn tomenni! Mae peth deunydd eildro yn y rhan fwyaf o flychau grawnfwyd, caniau a photeli gwydr.
Dyma ychydig o resymau da dros brynu nwyddau eildro:-
- Maen nhw cystal â nwyddau wedi'u gwneud o ddeunyddiau newydd.
- Byddwch chi'n helpu i gwtogi ar faint o ddeunyddiau sy'n cael eu claddu, gan arbed ynni ac adnoddau o ganlyniad.
- Byddwch chi'n rhoi hwb i farchnad y nwyddau eildro, yn cynyddu'r galw am ddeunyddiau i'w hailgylchu ac, o bosibl, yn creu swyddi yn eich bro.
- Mae nwyddau sy'n ddeunydd eildro i gyd mewn sawl siop bellach, gan gynnwys deunydd ysgrifennu, papur tŷ bach a bagiau sbwriel. Felly, darllenwch y label i wneud yn siwr bod yr hyn rydych chi'n ei brynu wedi'i wneud o ddeunyddiau eildro.
- Gallwch chi ddarllen labeli dillad i weld faint sydd wedi'i ailgylchu, hefyd, er nad yw'r cwmnïau i gyd yn rhoi gwybodaeth o'r fath.


