Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Prynu nwyddau eildro
Prynu nwyddau eildro yn y gwaith:
Gofynnwch i reolwr eich swyddfa brynu deunydd ysgrifennu a phapur eildro. O wneud hynny, byddwch chi'n helpu i gynnal y farchnad ailgylchu ac yn cyfleu neges amgylcheddol gadarnhaol i'ch cwsmeriaid.
Prynu nwyddau eildro ar gyfer yr ardd:
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n fawr o grefftwr gartref am fod amrywiaeth helaeth o nwyddau eildro ar gael ar gyfer eich gardd, gan gynnwys biniau compost, meinciau a ffensys. Bydd rhywbeth at eich dant ymhlith y rheiny a, chyn pen fawr o dro, bydd y cymdogion i gyd am eich efelychu.
Cofiwch…
… mai prynu nwyddau eildro yw hanfod arbed gwastraff!
Dylech chi geisio arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff bob amser. Edrychwch o'r newydd ar yr hyn rydych chi'n ei brynu a'r posibiliadau ynghylch cwtogi ar wastraff.
Holwch staff eich siop leol yn rheolaidd faint o nwyddau eildro sydd yno a llongyfarch y rheolwr am gynnig mathau newydd.
Dechreuwch ddefnyddio'ch grym prynu yn y gwaith hefyd. Mae peiriant llungopïo ym mron pob swyddfa, er enghraifft. Fydd yn derbyn papur eildro? Oes rhywun wedi ceisio gwneud hynny?

