Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Batrïau

Cewch chi fynd â'ch hen fatrïau i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi a bydd y rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn eu derbyn nhw bellach, hefyd. Mae rhai cynghorau'n eu casglu'n rhan o wasanaeth 'ymyl y pafin' ond dylech chi gysylltu â chyngor eich ardal i gadarnhau hynny.

Ystadegau am fatrïauBattery poster

  • Bydd tua 600 miliwn o fatrïau sydd wedi'u defnyddio yn y cartref (22,000 o dunelli – cyn drymed â 110 o awyrennau mawr) yn mynd yn ddiangen i safleoedd claddu sbwriel bob blwyddyn.

  • Bydd pob cartref yn defnyddio 21 batri bob blwyddyn ar gyfartaledd ac mae modd eu hailgylchu nhw i gyd. Ffynhonnell: Recycle Now

Mae modd ailgylchu'r rhan fwyaf o'r batrïau sydd i'w defnyddio yn y cartref:

  • pob cell AAA ac AA;
  • meintiau C a D;
  • batrïau botwm (e.e. ar gyfer horiawr);
  • batrïau ar gyfer ffonau poced;
  • batrïau ar gyfer glinfyrddau.

Dyma'r meintiau mwyaf cyffredin o ran batrïau:

Batris_01 (Bordered)

  • Bydd y rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi'n derbyn batrïau ceir bellach.

Mae rhagor o wybodaeth am ble gallech chi ailgylchu'r batrïau rydych chi'n eu defnyddio yn eich cartref ar:http://www.wasteawarenesswales.org.uk/