Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

- Gwastraff nad oes modd ei ailgylchu

Trin gwastraff nad oes modd ei ailgylchu: creu ynni, nid gwastraff

EfW 4smlAr ôl trin yr holl wastraff bwyd ac ailgylchu cymaint ohono â phosib, mae angen i ni feddwl am sut i drin y gwastraff sy’n weddill.

Mae dulliau technolegol cymhleth a hynod amrywiol ar gael i drin gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Fodd bynnag, mae pob un yn ceisio cyflawni’r un peth sef canfod gwerth yn ein gwastraff sy’n weddill drwy ei droi’n ynni. Maen nhw’n troi ein gwastraff yn anodd sy’n ddefnyddiol i ni.

Triniaeth Thermol Uwch (ATT)

Gan ddefnyddio gwres i drin y gwastraff nad oes modd ei ailgylchu, mae’n troi’r gwastraff yn danwydd sy’n gallu creu gwres a thrydan.

Pyrolysis - yn trin gwastraff ar dymheredd rhwng 300 ac 800 gradd Celsius heb ocsigen. Mae’n cynhyrchu nwy synthetig (syngas) y gellir ei losgi i greu ynni. Mae hefyd yn creu gwastraff solid o’r enw torgoch. 

Nwyeiddio - proses sydd angen tymheredd uwch na Phyrolysis. Ychwanegir rhywfaint o ocsigen at y broses, ond dim digon i losgi’r gwastraff yn llwyr. Mae’r broses yma hefyd yn cynhyrchu syngas sy’n gallu cael ei losgi i greu gwres ac ynni. Gwarged soled yw’r cynnyrch arall (sorod neu ludw) sy’n gallu bod yn agreg ar gyfer y diwydiant adeiladu.MBTsml

Triniaeth Fiolegol Fecanyddol (MBT)

Dyma gam sy’n gofalu ein bod ni wedi casglu popeth mae modd eu hailgylchu. Mae’n canfod deunyddiau megis metel a gwydr drwy ddefnyddio sgriniau hidlo a magnetau i ddidoli ein gwastraff. Bydd proses wrteithio wedyn yn malu ac yn sychu’r gwastraff biolegol, fel ein bwyd a gwastraff yr ardd, a gallwn ddefnyddio’r gwrtaith mewn prosiectau adfer tiroedd e.e. i orchuddio hen safleoedd tirlenwi.

Triniaeth Gwres Mecanyddol (MHT)

Proses trin â stem yw’r enghraifft fwyaf cyffredin o hyn sy’n gyfuniad o driniaethau mecanyddol a gwres. Prosesir ein gwastraff mewn cynhwysydd dan wasgedd gan droi gwastraff organig yn ddeunydd o’r enw ‘ffloc’ ac yn didoli deunyddiau mae modd eu hailgylchu. Defnyddir y deunydd sy’n weddill fel tanwydd mewn proses wresogi thermol. 

Spittelau energy from waste facility, Vienna

Ynni o wastraff drwy gyfuniad o wres a phŵer (EfW)

Llosgir y tanwydd ar dymheredd o dros 850 gradd Celsius. Mae ynni’n cael ei adfer yn ystod y broses losgi drwy ddefnyddio’r gwres i greu stem. Gall hyn greu gwres a phŵer. Mae’r lludw yn y llosgydd, sef y lludw gwaelod, wedyn yn cael ei hidlo i gael gwared ar unrhyw fetelau sy’n weddill ac i ddefnyddio’r gweddill fel agreg. Mae hidlau yn dal unrhyw weddillion neu ronynnau o’r broses losgi e.e. lludw dros ben, a’u hanfon i’w tirlenwi. Mae gwastraff yn ffynhonnell werthfawr o wres a phŵer.

Bookmark and Share