Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Dewisiadau technolegol

Rhoi ein gwastraff ar waith

Os oes angen i ni adeiladu cyfleusterau trin gwastraff newydd yng Nghymru, pa dechnolegau sydd ar gael i drin ein bwyd a’n gwastraff na allwn ei ailgylchu?

O ystyried y technolegau newydd sydd ar gael a’r hen ddulliau sy’n cael eu gwella, mae’n hawdd drysu rhwng yr holl brosesau. Mae’r tudalennau yma’n edrych ar sut mae’r technolegau newydd yn gweithio a beth yw eu manteision.

Bwydo ein dyfodol: trin gwastraff bwyd

Rydyn ni’n taflu 410,000 tunnell o fwyd a diod bob blwyddyn yng Nghymru. Mae ei gladdu’n creu methan, sef nwy sy’n achosi 23 gwaith mwy o niwed i’r amgylchedd na charbon deuocsid.

Mae cynghorau ledled Cymru yn casglu gwastraff o garreg eich drws. Rhaid i ni ddefnyddio’r dechnoleg orau i’w drin:

  • Triniaeth gwastraff bwyd
  • Trin gwastraff nad oes modd ei ailgylchu
  • Bookmark and Share