Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

- Gwastraff bwyd

Treulio Anerobig (AD)

Dyma’r dechnoleg mae Llywodraeth y Cynulliad am ei hyrwyddo i drin gwastraff bwyd. Mae AD yn creu ynni cwbl adnewyddadwy. Mae hyd yn oed y pŵer sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal safle’r AD yn dod o broses cynhyrchu ynni mewnol.

Treuliwr AnerobigAr ei lefel symlaf, mae’r dechnoleg yn gweithio yn union fel ni. Mae’n derbyn bwyd, yn ei dreulio, cyn ei droi’n ynni. Gan ddefnyddio bacteria naturiol yn hytrach nag ocsigen, mae’r broses yn malu gwastraff bwyd yn fân. Mae hynny’n creu bionwy sy’n gallu creu gwres a thrydan. Mae hefyd yn cynhyrchu deunydd tebyg i wrtaith sy’n gallu cynorthwyo pridd i ailgyflwyno maetholion gwerthfawr i’r tir. Mae hyn yn gwella safon y pridd ac yn ein helpu i ddibynnu llai ar wrtaith artiffisial.



Dyma gyfweliad am dreulio anaerobig ddarlledodd BBC Radio 4 - Sarah Mukherjee sy’n sôn am y bwriad i fuddsoddi mewn cyfleusterau treulio anaerobig. (English only interview)



Gwrteithio Caeedig (IVC)

Dyma broses sy’n trin gwastraff bwyd a gwastraff gerddi ar yr un pryd ac mae’n seiliedig ar broses naturiol gwrteithio. Torrir y gwastraff yn fân cyn ei wlychu i greu deunydd gwlyb. Pwmpio aer a dŵr i mewn i’r gwastraff yw’r cam nesaf gan ofalu nad yw’r tymheredd yn mynd o dan 60°C am ddau ddiwrnod. Mae proses GC yn ffordd syml o droi ein gwastraff yn wrtaith. Drwy ei defnyddio ym myd amaeth, rydyn ni’n dibynnu llai ar wrteithwyr artiffisial sydd angen llawer o ynni i’w gwneud ac mae’n cwtogi ar ein nwyon tŷ gwydr hefyd.

Y tu mewn i Compostiwr Caeedig

Bookmark and Share