Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Grwpiau rhanbarthol
Rheoli ein hadnoddau
Os na allwn dirlenwi, bydd rhaid i Gymru adeiladu cyfleusterau newydd fydd yn gallu trin ein gwastraff yn y dyfodol.
Er bod pob cyngor yng Nghymru wedi ymroi i ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff, bydd angen i ni ddatblygu cyfleusterau newydd sy’n gallu trin y gwastraff sy’n weddill.
Mae hynny’n golygu gweddnewid ein rhwydweithiau. Bydd angen ymdrech genedlaethol enfawr i greu Cymru ddiwastraff a bydd y camau angenrheidiol yn cynnwys neilltuo adeiladau a chreu cyfleusterau i ddatblygu technolegau newydd.
Mae cynghorau ledled Cymru yn dod ynghyd mewn partneriaethau rhanbarthol i gyflawni’r dasg yma. Diben hyn yw lleihau’r gwastraff sy’n cael ei greu ym mhob rhanbarth yn y modd mwyaf cynaladwy, cost-effeithiol ac ymarferol.
Gall pawb gyfrannu at ddatblygu rhwydwaith newydd ar gyfer trin gwastraff. Boed ar lefel Ewropeaidd, cenedlaethol a rhanbarthol, neu yn ein cynghorau a’n cymunedau lleol – mae gan bawb lais.
Cewch wybod rhagor am ddatblygu cyfleusterau gwastraff rhanbarthol drwy ddarllen Rhaglen Caffael Rhwydwaith Gwastraff.
Mae Cymru am weithio fesul rhanbarth er mwyn datblygu cyfleusterau newydd i drin bwyd dros ben a gwastraff na allwn ei ailgylchu.


