Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Adfer gwastraff
Bydd angen adeiladu sawl cyfleuster gwastraff newydd ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’r tudalennau yma’n egluro pam mae angen i ni ddefnyddio technolegau newydd i drin gwastraff i droi ein bwyd dros ben a’r gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn ynni adnewyddadwy.
Rydyn ni i gyd yn ddefnyddwyr ac yn creu gormod o wastraff. Rydyn ni’n prynu, yn defnyddio ac wedyn yn taflu dros 90 y cant o’r hyn rydyn ni’n ei brynu o fewn y chwe mis cyntaf.*
Mae Cymru’n cynhyrchu digon o wastraff i lenwi Stadiwm y Mileniwm bob 20 diwrnod. Troi’r gwastraff yma’n adnodd yw ein her fwyaf. Mae popeth rydyn ni’n ei daflu yn cynnwys deunyddiau gwerthfawr a allai gynhyrchu ynni. Ni ddylen ni wastraffu ein gwastraff na’n hynni.
Rhaid i ni newid ein ffyrdd i adfer yr adnodd yma. Rhaid newid yr arferion sy’n creu gwastraff a’r technolegau a ddefnyddiwn i’w drin.
Rydych chi eisoes yn rhan o’r newid yma. Rydych yn adfer deunyddiau gwerthfawr megis metel a phapur drwy eich cynllun ailgylchu lleol. Gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn. Mae pob eitem sy’n cael ei ailgylchu yn adfer darn bach o’n planed.
Ond beth am y gwastraff nad oes modd ei ailgylchu?
Mae gwerth i’r gwastraff yma hefyd am ei fod yn adnodd y gallwn ni ei ddefnyddio. Nid yw ein sbwriel yn wastraff go iawn nes i ni ei gladdu mewn twll yn y ddaear. Drwy gladdu deunyddiau, rydyn ni’n cael gwared ar ynni ac adnoddau gwerthfawr yn hytrach na’u defnyddio.
Drwy ddefnyddio’r technolegau trin gwastraff cywir, gallwn ni adfer adnoddau a chynhyrchu ynni yn lle gwastraff.
*Llywodraeth y Cynulliad ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff: Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’


