Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cwestiynau poblogaidd
Rydyn ni’n sylweddoli bydd y technolegau newydd yma’n cyflwyno rhai newidiadau fydd yn codi cwestiynau. Fodd bynnag, y cwestiwn pwysicaf i’w ofyn erbyn hyn yw sut gallwn ni wneud defnydd o’r gwastraff yma neu gael gwared ohono heb orfod ei gladdu.
Gyda lwc, bydd y tudalennau blaenorol wedi bod o gymorth i egluro pam fod angen i ni drin ein gwastraff mewn modd mwy cynaladwy. Rhowch wybod i ni os nad ydyn ni wedi ateb eich cwestiynau.
Pam fod angen i ni adeiladu cyfleusterau newydd i drin ein gwastraff?
Mae angen i ni drin gwastraff fel adnodd ac nid fel rhywbeth i gael gwared ohono. Bydd cyfleusterau trin gwastraff newydd yn troi ein bwyd a’n gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn ffynhonnell ynni werthfawr. Drwy adeiladu cyfleusterau newydd, gallwn ni drin gwastraff mewn modd mwy cynaladwy, dibynnu llai ar danwyddau ffosil a diogelu cyflenwad ynni Cymru.
Pam na allwn ni barhau i gladdu ein gwastraff?
Nid yw tirlenwi yn gam cynaladwy. Mae pobman bron â bod yn llawn a go brin y caiff safleoedd newydd eu hadeiladu. Drwy gladdu ein gwastraff yn uniongyrchol, rydyn ni’n gwastraffu’r holl ddeunydd crai a’r ynni a gafodd eu defnyddio i greu’r cynnyrch yn y lle cyntaf. Rydyn ni hefyd yn creu nwy tŷ gwydr o’r enw methan sy’n achosi 23 gwaith mwy o niwed i’r amgylchedd na charbon deuocsid, yn ogystal â thrwytholch sy’n gallu niweidio ein sustemau dŵr.
A fydd y cyfleusterau newydd yn effeithio ar ailgylchu?
Mae cynghorau ledled Cymru wedi ymroi i ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff. Rhaid i ni barhau i ailgylchu cymaint â phosib, a hynny mor aml â phosib. Yn Ewrop, y pum gwlad sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o ynni drwy dechnoleg trin gwastraff yw’r pum gwlad sy’n ailgylchu fwyaf hefyd. Mae Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Denmarc a Ffrainc yn dangos bod modd ailgylchu llawer yn ogystal â defnyddio cyfleusterau trin gwastraff effeithlon.
Ar wahân i dreulio anerobig ar gyfer trin gwastraff bwyd, nid oes atebion delfrydol. Mae treulio anerobig yn well nag IVC am ei fod yn defnyddio gwastraff bwyd i gynhyrchu ynni cwbl adnewyddadwy yn ogystal â chyflyrydd ar gyfer pridd.
O ran trin y deunyddiau sy’n weddill ar ôl ailgylchu cymaint â phosib, nid oes un dechnoleg sy’n well na phob un arall. Fodd bynnag, cydnabyddir mai’r triniaethau sy’n adfer gwres a thrydan yw’r dulliau mwyaf effeithlon. Felly, gorau po fwyaf o ynni sy’n cael ei adfer.
Ewch i dudalen 2
avascript>

