Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cwestiynau poblogaidd

Pwy fydd yn rheoleiddio’r cyfleusterau gwastraff newydd yma?
Mae cyfleusterau trin gwastraff ymhlith y diwydiannau mwyaf rheoledig yn y DG. Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru yn cadw llygad ar gyflawniad y cyfleusterau yma’n rheolaidd ac mae ganddi rwydd hynt i weld canlyniadau profion a monitro allyriadau. Os yw’r cyfleuster yn defnyddio technoleg hylosgi, bydd hefyd yn gorfod cydymffurfio â lefelau caeth Cyfarwyddyd Hylosgi Ewrop o ran allyriadau. Mae sawl cyfleuster eisoes yn cyhoeddi beth yw eu hallyriadau.

A ydy hylosgi yn cynhyrchu lefelau diocsin uchel ac a fydd yn effeithio ar fy iechyd?
Mae cylchoedd pwysedd yn sôn am ddiocsin yn aml - sef y cemegau sy’n effeithio ar iechyd, ond ychydig iawn ohonyn nhw mae cyfleusterau hylosgi yn eu cynhyrchu. I’w roi mewn cyd-destun, mae 14 y cant o allyriadau diocsin y DG yn cael ei gynhyrchu ar noson Guto Ffowc yn unig. Ac yn ôl adroddiad diweddar gan Asiantaeth Amgylchedd Cymru, byddai llosgi gwastraff y cartref yn cynhyrchu llai nag 1% o allyriadau diocsin blynyddol y DG. Yn sgîl technoleg well a rheoliadau llymach, mae allyriadau llosgi wedi gostwng yn sylweddol a bydd yr allyriadau’n cael eu rheoleiddio’n ofalus i ofalu bod y tueddiad yma’n parhau. Cewch weld sawl astudiaeth iechyd drwy ddefnyddio tudalen y cysylltiadau.

Sawl cyfleuster fydd eu hangen arnon ni?
Mae cynghorau ledled Cymru yn cydweithio mewn partneriaethau rhanbarthol i ganfod y dull mwyaf cynaladwy, cost-effeithiol ac ymarferol o drin ein gwastraff. Drwy weithio fesul rhanbarth, go brin y bydd llawer o gyfleusterau trin gwastraff newydd, ond bydd nifer fechan ohonyn nhw’n cael eu hadeiladu fydd yn gallu mynd i’r afael â’r gwastraff sy’n cael ei greu yng Nghymru’n gyffredinol.

Ble caiff y cyfleusterau yma eu hadeiladu a phryd?
Bydd angen adeiladu sawl cyfleuster trin gwastraff newydd ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd i ddod a bydd pob un yn gorfod cydymffurfio â phrosesau cynllunio a chaniatáu caeth. Bydd angen i awdurdodau lleol ddod i benderfyniadau anodd dros ben ynghylch ble i’w hadeiladu yn ogystal ag ystyried materion megis tai lleol, cludiant a pha mor agos yw’r safleoedd at gyfleusterau trin gwastraff eraill. 

Bydd diwydiant preifat yn dylanwadu ar yr hyn sy’n cael ei adeiladu a phryd. Tra bod cynghorau ledled Cymru yn awyddus i brynu cyfleusterau newydd i drin gwastraff cartrefi, bydd cwmnïau preifat hefyd yn cyflwyno ceisiadau i adeiladu eu cyfleusterau eu hunain i drin gwastraff masnachol a diwydiannol. Er nad yw’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynnig y cyfleusterau newydd yma, maen nhw’n gyfrifol am werthuso unrhyw gais cynllunio gan gwmnïau preifat.

Bydd cydweithio â’r cyhoedd drwy gydol y broses gynllunio yn hanfodol. Bydd angen ymdrech genedlaethol enfawr i greu Cymru ddiwastraff ac mae’n hollbwysig eich bod yn cymryd rhan.

Rydyn ni’n sylweddoli bod hwn yn bwnc hollbwysig. Cysylltwch ar bob cyfrif os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ychwanegol.

Bookmark and Share