Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cwestiynau poblogaidd
Pa gyfran o’r gwastraff ddylai gael ei ddefnyddio i adfer ynni?Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyfyngu ar faint o wastraff sy’n cael ei adfer o gyfleusterau gwastraff i’w droi’n ynni. Gan mai arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu yw’r ffordd fwyaf cynaladwy yng Nghymru, dim ond 30 y cant o wastraff ein cartrefi gallwn ni ei drin drwy ddefnyddio ynni o dechnoleg gwastraff. Dyna pam mae’n rhaid i ni fod yn wlad sy’n ailgylchu llawer. Rhaid i ni adfer 70 y cant o’n gwastraff drwy ei ailgylchu.
Beth yw treulio anerobig?
Caiff ei ddefnyddio i drin gwastraff bwyd. Rydyn ni’n taflu dros 330,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn yng Nghymru. Mae’r dechnoleg yn efelychu proses naturiol drwy ddefnyddio microbau naturiol i falu’r gwastraff yn fân, ac mae hynny’n cynhyrchu ffynhonnell sy’n rhoi gwastraff cwbl adnewyddadwy. Mae hefyd yn rhoi treuliwr sy’n gallu bod yn wrtaith a’n gyflyrydd pridd.
Ai llosgi yw hanfod y dechnoleg newydd?
Na – mae modd defnyddio amrywiaeth eang o dechnolegau i droi ein gwastraff yn ffynhonnell ynni. Mae hyn yn cynnwys treulio anerobig, hylosgi drwy wres a phŵer yn ogystal â phyrolysis a nwyeiddio. Bydd partneriaethau rhanbarthol sy’n cynnwys y 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn ystyried beth yw’r ateb mwyaf cynaladwy, cost-effeithiol ac ymarferol ar gyfer eich ardal chi.
Ai rhywbeth newydd yw cael ynni o dechnoleg gwastraff? A ydy hyn yn gweithio?
Mae cael ynni o drin gwastraff yn cael ei ystyried yn ddull diogel a dibynadwy sydd wedi ennill ei blwyf ar gyfer trin gwastraff nad oes modd ei ailgylchu. Mae ynni wedi cael ei adfer o wastraff ers dros ganrif ac mae cyfleusterau modern yn effeithlon dros ben ac yn cael eu rheoli’n dda. Mae’r DG ymhell ar i hôl hi o ran defnyddio technolegau trin gwastraff newydd. Mae gan UDA eisoes 121 o gyfleusterau ledled 29 o daleithiau, mae bron i 400 yn Ewrop ac mae dros 300 yn Asia. Mae 200 o gyfleusterau gwastraff yn yr Almaen ar ei phen ei hun.
Beth yw manteision datblygu technolegau gwastraff newydd?
Mae ein gwastraff yn adnodd a bydd adfer yr adnodd yma o les mawr i’r amgylchedd. Dyma rai o fanteision y technolegau newydd:
- cynhyrchu ynni cwbl adnewyddadwy
- tirlenwi llai yn ogystal â chynhyrchu llai o fethan a charbon deuocsid
- defnyddio llai o danwyddau ffosil a chynhyrchu llai o allyriadau carbon deuocsid yn sgîl hynny
- cyflenwad ynni cenedlaethol mwy cadarn
- defnyddio gwastraff i gynhyrchu gwres a phŵer
Ewch i dudalen 3
avascript>

