Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cymru’n Un, Cenedl Un Blaned: yr angen i newid
Mae’r adnoddau mae Cymru’n eu defnyddio yn cyfateb i’r hyn sydd ei angen ar dair planed. Rhaid i ni ddechrau byw o fewn yr adnoddau sydd gennym. *
I wneud hyn, mae Cymru am geisio bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Dylunio cynnyrch a gwasanaethau diwastraff yw’r cam cyntaf. Drwy greu llai o wastraff, rydyn ni’n defnyddio llai o adnoddau naturiol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd am i Gymru ailgylchu 70 y cant o’i gwastraff erbyn 2025. Mae gan bawb yng Nghymru, boed yn gwmnïau preifat neu’n breswylwyr, ddyletswydd erbyn hyn i geisio gwneud Cymru’n genedl lle mae ailgylchu’n flaenllaw. Mae pob cyngor yng Nghymru wedi ymroi i gyrraedd y targed uchelgeisiol yma. Bydd angen eich cymorth chi arnyn nhw i lwyddo.
Bydd angen i ni wedyn ddod o hyd o ffyrdd newydd o drin y gwastraff sy’n weddill ar ôl arbed ac ailgylchu cymaint â phosib.
Nid tirlenwi yw’r ateb yn sicr. Mae pobman bron â bod yn llawn a go brin y caiff safleoedd newydd eu hadeiladu. Mae’n creu nwyon niweidiol sy’n llygru’r aer o’n cwmpas ac yn gwastraffu adnoddau naturiol. Mae ei gost yn cynyddu a bydd dirwyon mawr yn cael eu codi cyn bo hir am ddefnyddio proses o’r fath. Ac yntau’n un o’r elfennau amlycaf sy’n achosi’r newid hinsoddol, mae tirlenwi yn cael effaith hynod andwyol ar ein heconomi a’n hamgylchedd.
Drwy adeiladu cyfleusterau newydd i drin ein gwastraff dros ben, gallwn ni adfer yr adnodd yma a’i ddefnyddio i gynhyrchu gwres a thrydan. Gall bwyd dros ben a gwastraff nad oes modd ei ailgylchu fod yn ffynhonnell wych o ynni adnewyddadwy.
Gall pawb greu llai o wastraff a helpu Cymru i fod yn genedl sy’n ailgylchu. Bydd llawer o’r technolegau newydd yn ein helpu i ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff. Dim ond 30 y cant o’r gwastraff mewn cyfleusterau gwastraff y gallwn ei droi’n ynni.
Mae’r cloc y tician. Dim ond am tua 8 mlynedd arall y gallwn ni dirlenwi yng Nghymru gan nad oes lle ar ôl. Rhaid i ni ddatblygu technolegau newydd sy’n gallu trin y gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
*Cewch ragor o wybodaeth am fyw fel un blaned a Chymru ddiwastraff yn ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff: Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ gan Lywodraeth y Cynulliad


