Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Nadolig
Syniadau ar gyfer lleihau gwastraff dros y Nadolig:
- Ceisiwch anfon cyfarchion tymhorol a negeseuon o ddiolch ar e-gardiau - ewch i
http://www.craffamwastraff.org.uk/e-cards/index.html i anfon eich e-gardiau am ddim;
- Pan fyddwch chi’n gwneud eich siopa Nadolig, ewch a bag cotwm neu ‘fag am oes’ gyda chi;
-
Gwnewch bartïon Nadolig yn eco-bartïon; osgowch blatiau a chwpanau tafladwy ac ailgylchwch unrhyw ganiau neu boteli;
-
Rydyn ni’n taflu traean o’r bwyd a brynwn, felly cynlluniwch ymlaen llaw er mwyn lleihau’r bwyd sy’n cael ei daflu i safleoedd tirlenwi;
-
Nid yw ailgylchu papur lapio bob amser yn hawdd. Os ydych am lapio eich anrhegion, pam ddim eu clymu gyda rhuban neu linyn - gallwch ailddefnyddio’r papur, llinyn neu’r rhuban y flwyddyn ganlynol;
-
Ar ôl y Nadolig, gallwch ailgylchu’r goeden hyd yn oed - cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol i weld a oes ganddo gynllun ar gyfer sglodio coed i gynhyrchu taeniad organig ar gyfer yr ardd a’r parc;
-
Cofiwch ailgylchu unrhyw gardiau y byddwch chi’n eu cael – rhwng 2-31 Ionawr 2009 bydd Coed Cadw’n casglu cardiau i’w hailgylchu yn WHSmith, Tesco, TK Maxx a Marks and Spencer. Rhowch gynnig ar wneud labeli o’r lluniau ar du blaen y cardiau ar gyfer blwyddyn nesaf hefyd;
-
A pheidiwch ag anghofio ailgylchu eich papurau newydd, cylchgronau a’ch amserlenni teledu i gyd.

