Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Sir Benfro
Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae Sir Benfro yn cynnig casgliadau o ymyl y ffordd ar gyfer papur, cardfwrdd, caniau, ffoil a photeli plastig. Fyddwn ni ddim yn derbyn unrhyw nwyddau plastig ar wahân i boteli. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Benfro.
Safleoedd Banciau Danfon
Mae 167 o Safleoedd Banciau Danfon yn Sir Benfro yn casglu amrywiaeth o ddefnyddiau gan gynnwys papur, gwydr, caniau, esgidiau a thecstilau. I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd.
Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae 6 Safle Amwynderau Dinesig yn Sir Benfro:
- Maenorowen, Abergwaun
- Winsel, Hwlffordd
- Hermon
- Tyddewi
- Waterloo, Doc Penfro
- Salterns, Dinbych y Pysgod
Mae oriau agor y gwahanol safleoedd yn amrywio. Felly, cysylltwch â Chyngor Sir Benfro i gael mwy o wybodaeth.
Tîm Ailgylchu
Uned 24,
Parc Busnes Thornton,
Aberdaugleddau,
Sir Benfro
SA73 2RR- Canolfan gysylltu
- 01437 764551
- Ebost: Waste.Strategy@Pembrokeshire.gov.uk
- Cadwch Gymru’n Daclus
- Cyfeillion y Ddaear Cymru
- Canolfan Eco Gorllewin Cymru
- Planed (01834 862110) - partneriaeth bro
- Ffrâm Sir Benfro (01487 899307)
- Community RePaint Website
- Freecycle Sir Brnfro
- Cynllun Ailgylchu Strategol (SRS) - Sir Benfro
- Recycle Now: Compost Buddies video (English only)
- Furniture Reuse Network


