Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Partneriaethau Cynllun Craff am Wastraff
Mae Cylch (Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru) yn helpu i gynnal yr ymgyrch ailgylchu genedlaethol mae Cynllun Craff am Wastraff yn ei rheoli. Mae Cylch yn cynnal nifer o brosiectau ar y cyd â'r cynllun megis y Prosiect Ailgylchu mewn Achlysuron a Cylchgrawn. Mae Cylch yn cynrychioli'r sector cymunedol yng nghylch rheoli Cynllun Craff am Wastraff.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yw'r corff cyhoeddus mwyaf blaengar ynghylch diogelu a gwella amgylchedd Cymru o blith y rhai sydd o dan nawdd y Cynulliad. Mae'n gweithio gyda byd busnes, byd llywodraeth a phob carfan o'r gymuned i ofalu bod dull cyfun o drin a thrafod y tir, yr awyr a'r dŵr.
Un o'i phrif rolau yw rheoli gwastraff yn gynaladwy i ddiogelu'r amgylchedd a iechyd pobl trwy ofalu bod y byd diwydiannol yn cadw at reoliadau'r Deyrnas Gyfunol ac Undeb Ewrop.
Mae'n gwneud hynny trwy ganiatáu trin gwastraff, asesu ynghylch cydymffurfio, monitro a gorfodi. Mae'n rhoi cyngor ynghylch ceisiadau am ganiatâd a chanllawiau am reoliadau ac arferion da, hefyd.
Mae'r asiantaeth yn aelod o gylch rheoli Cynllun Craff am Wastraff.
Mae Ymgyrch 'Cadwch Gymru'n Daclus' yn fudiad gwirfoddol sy'n annog pawb i gadw Cymru yn lân, yn ddiogel ac yn daclus. Mae'n cydlynu Rhaglen yr Eco-'Sgolion yng Nghymru, sydd o dan nawdd Llywodraeth y Cynulliad, Cynllun Craff am Wastraff a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae cynrychiolwyr Cynllun Craff am Wastraff yn mynychu cyfarfodydd cylch ymgynghorol Rhaglen yr Eco-'Sgolion ac yn cefnogi gweithgareddau'r rhaglen yn llwyr. Mae Ymgyrch 'Cadwch Gymru'n Daclus' yn aelod o gylch rheoli Cynllun Craff am Wastraff, hefyd.

Llywodraeth y Cynulliad sy'n ariannu Cynllun Craff am Wastraff. Mae'i chynrychiolwyr yn rhan o gylch rheoli'r cynllun fel y gallan nhw roi cyngor a chyfrannu'n strategol at ei ddatblygu.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Mae'n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru ac mae awdurdodau'r pedwar heddlu, y tri gwasanaeth tân ac achub a'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt. Swyddfa Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym Mae Caerdydd yw canolfan Cynllun Craff am Wastraff, a Chyfarwyddiaeth WLGA dros Adfywio a'r Amgylchedd sy'n gyfrifol am ei reoli. Mae WLGA yn rhan o gylch rheoli'r cynllun, hefyd.



