Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Newyddion

Mae'r diweddaraf am yr ymgyrch a phynciau llosg ailgylchu i'w gael yma. I gael gwybod am ailgylchu yn eich bro, ewch at adran 'Yn eich ardal' neu ewch at 'chwiliadur ailddefnyddio ac ailgylchu'

  • Anrhegion am oes, nid y Nadolig yn unig
    Anrhegion am oes, nid y Nadolig yn unig Gyda’r addurniadau wedi’u cadw a’r frechdan dwrci olaf wedi’i bwyta, mae’r Nadolig wedi dod i ben am flwyddyn arall – ac efallai bod ein dewis o anrhegion yn dechrau colli eu hapêl.
  • Gweinidog yn cefnogi ymgyrch newydd ‘Craff am Wastraff’
    Gweinidog yn cefnogi ymgyrch newydd ‘Craff am Wastraff’ Heddiw (11 Rhagfyr), bu’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn Ysgol y Berllan Deg yng Nghaerdydd, un o’r Eco-Sgolion diweddaraf yng Nghymru i ennill y radd amgylcheddol uchaf a chartref seren ymgyrch hysbysebu ddiweddaraf cynllun ‘Craff am Wastraff’.
  • Daw’r hud yn ôl gydag hysbysebion newydd y Cynllun
    Daw’r hud yn ôl gydag hysbysebion newydd y Cynllun “Gallai ailgylchu un botel wydr arbed digon o egni i oleuo bwlb golau am bron i awr”, “Gallai haneru ein gwastraff bwyd gael yr un effaith ar ollyngiadau CO2 â chymryd miloedd o geir oddi ar y ffordd” - dyma rai o negeseuon pwerus ymgyrch newydd a lansiwyd heddiw (dydd Llun, 3 Rhagfyr) gan cynllun ‘Craff am Wastraff’.
  • Cynllun Craff Am Wastraff yn targedu gwastraff bwyd
    Cynllun Craff Am Wastraff yn targedu gwastraff bwyd Heddiw, lansiodd cynllun Craff am Wastraff, y sefydliad sy’n ein hannog i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff, ei ymgyrch gyntaf erioed i gymell aelwydydd ledled y wlad i geisio taflu llai o wastraff bwyd.
  • Ymgynghoriad ar gynllun gwastraff rhanbarthol
    Ymgynghoriad ar gynllun gwastraff rhanbarthol Mae targedau statudol a osodwyd ar gyfer gwaredu gwastraff yn golygu bod angen brys am gyfleusterau gwastraff newydd yng Nghymru i drin y gwastraff sy’n weddill (sef y sbwriel sy’n weddill wedi i ailgylchu a chompostio ddigwydd). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n credu’n gryf y dylai pobl Cymru fod yn rhan o ddatblygu gwasanaethau rheoli gwastraff y wlad i’r dyfodol. O ganlyniad mae’r Grwpiau Gwastraff Rhanbarthol (gogledd, de-ddwyrain a de-orllewin Cymru) wedi lansio cyfnod ymgynghori deg wythnos, yn cychwyn yr wythnos hon, sy’n chwilio’n weithredol am farn pobl Cymru.
  • Cnoi cil ar Noson Calan Gaeaf
    Cnoi cil ar Noson Calan Gaeaf Arswyd y byd! Mae’r gwrachod ar ein gwarthaf unwaith eto … ac wrth i filoedd fynd ati i gerfio’u pwmpenni, rydyn ni’n annog Cymru gyfan i wneud mwy na chodi twrw eleni.
  • Gair i gall ar faterion gwyrdd gan fyfyrwyr
    Gair i gall ar faterion gwyrdd gan fyfyrwyr Er nad yw materion amgylcheddol o bosibl yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth gan fyfyrwyr, mae’n ymddangos bod llawer o fyfyrwyr Cymru’n mabwysiadu agwedd gymharol werdd at eu hastudiaethau a’u ffordd o fyw.
  • Annog cenedlaethau'r I weithredu
    Annog cenedlaethau'r I weithredu Mae ysgolion o bob cwr o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn cynlluniau ailgylchu ers blynyddoedd, o gasglu tuniau alwminiwm i ailgylchu papur. Ond yn ôl y cynllun ‘Craff am Wastraff’, mae angen gwneud mwy os ydyn ni am lwyddo i newid y ffordd yr ydym yn rheoli’n gwastraff.
  • Gweinidog Newydd yn annog digwyddiadau i ailgylchu
    Gweinidog Newydd yn annog digwyddiadau i ailgylchu Mae Jane Davidson Aelod Cynulliad, Gweinidog newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Gynaliadwyedd a Thai, yn annog ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru eleni i ailgylchu eu sbwriel gartref ac oddi cartref.
  • Troi'ch priodas yn briodas werdd
    Troi'ch priodas yn briodas werdd Gyda gwahoddiadau lu wedi’u hanfon i gartrefi ledled Cymru, mae tymor y priodasau wedi cyrraedd unwaith eto – ac eleni mae pobl yn darganfod sut y gall y briodas fwyaf smart fod yn arbennig i’r cwpl sy’n priodi ac yn fwy caredig i’r amgylchedd.
  • Bob Geldof - Arwr Ailgylchu Cymru Ym Marn Y Bobl
    Bob Geldof - Arwr Ailgylchu Cymru Ym Marn Y Bobl Bob Geldof yw’r seren ‘fwyaf gwyrdd’, yn ôl arolwg newydd a gynhaliwyd ymysg pobl Cymru. Cafodd y Tywysog Siarl, Sting, Al Gore a Chris Martin eu henwi hefyd yn llysgenhadon gwyrdd fel rhan o ymchwil a gynhaliwyd i nodi Wythnos Ailgylchu (2-8 Mehefin).
  • Digwyddiadau Mawr Cymru I Fabwysiadu Polisi 'Gwyrdd'
    Digwyddiadau Mawr Cymru I Fabwysiadu Polisi 'Gwyrdd' Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a’r Sioe Fawr wedi addo ailgylchu mwy o wastraff yn eu digwyddiadau, gydag arweiniad gan ddau sefydliad amgylcheddol blaenllaw.
  • Y rysáit perffaith ar gyfer gardd sy’n fôr o flodau!
    Y rysáit perffaith ar gyfer gardd sy’n fôr o flodau! Mae safleoedd tirlenwi ar hyd a lled y wlad yn prysur lenwi ond mae cynllun Craff am Wastraff yn annog pobl i fynd ati nid yn unig i helpu osgoi anfon miliynau o dunelli o wastraff i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn ond i greu gerddi sy’n fôr o flodau hefyd!Mae cynllun Craff am Wastraff yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Gompostio (6 – 12 Mai) – wythnos a sefydlwyd gan y Gymdeithas Gompostio - ac mae’n awyddus i ddangos i bobl Cymru bod compostio’n ffordd wych o wneud eich rhan dros yr amgylchedd.
  • Mwydod Amdani I Arbed Sbwriel!
    Mwydod Amdani I Arbed Sbwriel! Y rhoddion traddodiadol ar gyfer dathlu pedwerydd pen-blwydd yw ffrwythau a blodau - ond mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ wedi mynd ati i ddathlu ei bedwerydd pen-blwydd mewn ffordd go wahanol, trwy gyflwyno llond bwced o wastraff ffrwythau a hen flodau i’r arbenigwr bywyd gwyllt a’r seren deledu Iolo Williams… ynghyd ag abwydfa i gael gwared arnyn nhw.
  • Lleihau Gwastraff Y Pasg Hwn
    Lleihau Gwastraff Y Pasg Hwn Mae’r Pasg yn gallu bod yn amser i gyfarfod teulu a ffrindiau ac i fwynhau ŵy Pasg neu ddau os ydych chi’n lwcus. Ond mae ein hoffter ni o bethau melys yn golygu ein bod ni yma yng Nghymru ac yng ngweddill y DU yn cynhyrchu’r swm aruthrol o 4,500 tunnell yn fwy o wastraff dros gyfnod y Pasg, diolch i’r holl ffoil a’r cardbord sydd yn y deunydd pacio wyau Pasg yn unig.
  • Cynllun Craff am Wastraff yn annog tipyn o ramant!
    Cynllun Craff am Wastraff yn annog tipyn o ramant! Gyda Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant yn prysur agosáu, mae Cynllun Craff am Wastraff yn annog tipyn o ramant drwy gymell pobl i fynegi eu cariad at yr amgylchedd yn ogystal â’u cariadon drwy anfon e-gardiau.
  • Byddwch yn Wyrddach yn 2007
    Gyda chartrefi yn y Deyrnas Unedig yn taflu tua 3 miliwn tunnell o wastraff ychwanegol dros gyfnod y Nadolig, mae Cynllun Craff am Wastraff yn nodi sut y gallwch fynd ati i dacluso ar ôl y dathliadau er mwyn sicrhau Nadolig a Blwyddyn Newydd gwyrddach.
  • HYSBYSEBION NEWYDD CYNLLUN CRAFF AM WASTRAFF
    HYSBYSEBION NEWYDD CYNLLUN CRAFF AM WASTRAFF Bydd Cynllun Craff am Wastraff yn lansio cyfres o hysbysebion teledu a radio newydd heddiw (dydd Llun 16 Hydref) fel rhan o ymgyrch ‘ailgylchu dros Gymru/recycle for Wales’.
  • MWY O BOBL YNG NGHYMRU'N DWEUD NA I SGRWTSH
    Mae ffigurau diweddaraf Cynllun Craff am Wastraff yn dangos bod pobl yng Nghymru'n dweud na i sgrwtsh (junk mail). Mae straeon newyddion amlwg yn gynharach eleni wedi sicrhau bod sgrwtsh - neu bost uniongyrchol – wedi cyrraedd y penawdau, ac mae'n ymddangos bod pobl yn fwy ymwybodol o sut i osgoi derbyn sgrwtsh.
  • YMGYRCH CYNLLUN CRAFF AM WASTRAFF YN CAEL EI CHYDNABOD GYDA GWOBR
    Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r Cynllun Craff am Wastraff ‘recycle for Wales/ailgylchu dros Gymru’ wedi derbyn gwobr efydd yng ngwobrau uchel eu parch Cream.