Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Newyddion

Mae'r diweddaraf am yr ymgyrch a phynciau llosg ailgylchu i'w gael yma. I gael gwybod am ailgylchu yn eich bro, ewch at adran 'Yn eich ardal' neu ewch at 'chwiliadur ailddefnyddio ac ailgylchu'

  • Traethawd Ailgylchu
    Traethawd Ailgylchu Wrth i brisiau gwael rhai deunyddiau ailgylchadwy yn y farchnad fyd-eang barhau i sbarduno sibrydion bod awdurdodau lleol Cymru’n pentyrru gwastraff, rhoddodd y Cynghorydd Aled Roberts, Cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’, ddiwedd ar y sibrydion hynny.
  • Gwasanaeth ar-lein newydd i hybu’r arfer o ailddefnyddio ac ailgylchu
    Gwasanaeth ar-lein newydd i hybu’r arfer o ailddefnyddio ac ailgylchu Heddiw, ail-lansiodd cynllun ‘Craff am Wastraff’ ei leolwr banciau ailgylchu ar-lein i’w gwneud hi’n haws fyth i bobl Cymru gael gwybodaeth am sut i ailddefnyddio ac ailgylchu amrywiaeth eang o eitemau’r cartref yn eu hardal.
  • Dymunwn Nadolig craff am wastraff i chi i gyd
    Dymunwn Nadolig craff am wastraff i chi i gyd Wrth i baratoadau’r Nadolig gychwyn o ddifrif, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog siopwyr prysur i beidio â gwastraffu dros yr ŵyl.
  • CALENDR CEWYNNAU GO IAWN
    CALENDR CEWYNNAU GO IAWN Mae tri ar ddeg o fabanod o bob cwr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer calendr sy’n hybu’r defnydd o gewynnau go iawn yng Nghymru.
  • Gweinidog yn Cefnogi Ymgyrch Newydd
    Gweinidog yn Cefnogi Ymgyrch Newydd Mae’n bleser gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson AC, lansio ymgyrch hysbysebu genedlaethol newydd Cynllun Craff am Wastraff. Bwriad yr ymgyrch, sy’n cychwyn heddiw, yw galluogi pobl o bob cwr o Gymru i gyrraedd lefel uwch wrth arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.
  • Nôl i'r ysgol gyda bocs bwyd diwastraff
    Nôl i'r ysgol gyda bocs bwyd diwastraff Wrth i blant ledled Cymru baratoi i fynd yn ôl i’r ysgol, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog rhieni i roi bocs bwyd diwastraff iddyn nhw er mwyn cynorthwyo i leihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi Cymru bob blwyddyn.
  • Defnyddwyr Cymru yn ymateb i’r neges ailgylchu
    Defnyddwyr Cymru yn ymateb i’r neges ailgylchu Yn ôl y gwaith ymchwil diweddaraf* ar ran cynllun ‘Craff am Wastraff’, mae’r ymgyrch diweddar o hysbysebion teledu ‘recycle for Wales/ailgylchu dros Gymru’ yn helpu i bwysleisio’r neges ailgylchu ymhlith defnyddwyr ledled Cymru. Mae’r canlyniadau hyn yn cefnogi bwletin Cyflwr yr Amgylchedd 2008 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fis diwethaf, sy’n dangos bod pobl Cymru’n ailgylchu mwy erbyn hyn.
  • Dim Dilla Newydd – Dim Ffasiwn Beth!
    Dim Dilla Newydd – Dim Ffasiwn Beth! If the credit crunch is curbing your passion for fashion as you try to resist the lure of this summer’s sales, don’t despair. Waste Awareness Wales has the perfect solution for guilt-free shopping – the clothes swapping party.
  • Lansio Canllawiau Ailgylchu
    Lansio Canllawiau Ailgylchu Cafodd canllawiau newydd i helpu trefnwyr i gynnig cyfleusterau ailgylchu llwyddiannus mewn digwyddiadau eu lansio yn y Sioe Fawr eleni gan Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn Llywodraeth y Cynulliad.
  • Cynllun 'Craff Am Wastaff' yn chwilia am fabanod i fod yn sêr
    Cynllun 'Craff Am Wastaff' yn chwilia am fabanod i fod yn sêr With just a few weeks left to go until the closing date (27 June), Waste Awareness Wales are reminding Welsh parents that there is still time to enter their competition, the search for Wales’ most adorable babies to star in a new ‘Real Nappy Calendar’.
  • Yr anrhegion Gwyrdd gorau ar gyfer Sul y Tadau
    Yr anrhegion Gwyrdd gorau ar gyfer Sul y Tadau Gyda Sul y Tadau’n prysur agosáu (15 Mehefin), mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn ein hannog i edrych y tu hwnt i deis a sanau ac ystyried anrheg unigryw a diwastraff.
  • Un Eitem Arall i Wythnos Ailgylchu
    Un Eitem Arall i Wythnos Ailgylchu Mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog defnyddwyr i ailgylchu "un eitem arall" fel rhan o Wythnos Ailgylchu eleni ym mis Mehefin.
  • Baeddu’ch dwylo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Compost
    Baeddu’ch dwylo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Compost Bu cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog pobl i faeddu eu dwylo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Composti yn ystod dydd Llun Gŵyl Banc Calan Mai.
  • Wythos cewynnau go iawn gyda Lucy Owen
    Wythos cewynnau go iawn gyda Lucy Owen Lansiwyd Wythnos Cewynnau Go Iawn eleni (21-27 Ebrill) gan y cyflwynydd newyddion a’r fam newydd Lucy Owen. Fel rhan o’r wythnos, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ a Cymru Gynhaliol yn annog rhieni newydd fel Lucy i ystyried defnyddio cewynnau go iawn ar eu plant – ac mae hefyd wedi dechrau chwilio am fabanod ifanc o bob cwr o Gymru i serennu mewn calendr cewynnau newydd.
  • Afal y dydd yn mynd i'r bin
    Afal y dydd yn mynd i'r bin Mae aelwydydd y DU yn taflu 4.4 miliwn o afalau cyfan heb eu bwyta i’r bin sbwriel bob dydd, a ffrwythau a llysiau sy’n cyfrif am 40 y cant o wastraff bwyd yn ôl ffigurau diweddaraf ymgyrch Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff Cynllun Craff am Wastraff.
  • Dewiswch anrhegion gwyrddach y Pasg hwn
    Dewiswch anrhegion gwyrddach y Pasg hwn Wrth i’r Pasg agosáu, bydd llawer ohonom yn dechrau meddwl am wyau Pasg a bydd tua 80 miliwn o wyau siocled yn cael eu prynu yn y DU yn ystod y cyfnod hwn. Eleni, heb geisio atal mwynhad siocled-garwyr y genedl, mae Cynllun Craff am Wastraff yn gofyn i bobl geisio lleihau’r deunydd pacio gwastraff sy’n cael ei greu gan yr wyau siocled hyn.
  • Ailddefnyddio hen ddodrefn
    Ailddefnyddio hen ddodrefn Mae’r gwanwyn yn agosáu ac mae llawer o bobl eisoes yn meddwl am gael gwared â phethau o’r cartref. Gan fod cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn dathlu ei ben-blwydd yn bump oed y mis hwn - digwyddiad sy’n cael ei ddathlu’n draddodiadol ag anrhegion wedi’u gwneud o bren - gofynnir i bobl ystyried ailddefnyddio eu hen eitemau dodrefn yn hytrach na mynd â nhw i safleoedd tirlenwi.
  • Anrhegion Ecogyfeillgar ar sul y mamau
    Anrhegion Ecogyfeillgar ar sul y mamau Bydd mamau o Fôn i Fynwy yn cael eu sbwylio ar 2 Mawrth eleni, sef diwrnod Sul y Mamau. Maen nhw’n haeddu hynny yn sgil eu gwaith caled drwy’r flwyddyn. Felly, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ wedi creu rhestr o syniadau ar gyfer y diwrnod arbennig hwn - anrhegion a fydd yn plesio’ch mam ac yn helpu i leihau’r holl wastraff sy’n llenwi safleoedd tirlenwi drannoeth y dathlu.
  • Cariad ecogyfeillgar
    Cariad ecogyfeillgar Gyda Dydd Santes Dwynwen a Diwrnod Sant Ffolant yn prysur agosáu, bydd miliynau ohonom yn dathlu’r achlysur trwy anfon un o’r 13 miliwn o gardiau serch sy’n cael eu prynu yn y DU bob blwyddyn.
  • Cyngor ffasiwn ar ôl gorwario dros y Nadolig
    Cyngor ffasiwn ar ôl gorwario dros y Nadolig Mae’r Nadolig drosodd am flwyddyn arall, a ninnau yng nghanol gaeaf noethlwm. A thra bod trip siopa fel arfer yn ddigon i godi’r ysbryd ar adeg digon diflas o’r flwyddyn, efallai bod angen ailfeddwl sut i ailwampio’r cwpwrdd dillad ar ôl yr holl wario dros dymor y gormodedd.