Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Newyddion
Mae'r diweddaraf am yr ymgyrch a phynciau llosg ailgylchu i'w gael yma. I gael gwybod am ailgylchu yn eich bro, ewch at adran 'Yn eich ardal' neu ewch at 'chwiliadur ailddefnyddio ac ailgylchu'
- Môr o gariad ar Ddydd Santes Dwynen a Dydd Sant Ffolant
Gyda Dydd Santes Dwynwen a Dydd Sant Ffolant ar y gorwel, bydd llawer o Gymry rhamantus yn anfon cerdyn neu brynu anrheg i’w cariad neu gymar.
- Beth am ddifetha’r teulu dros y Nadolig – nid yr amgylchedd
Mae Craff am Wastraff yn annog cartrefi i fod yn gyfrifol yn ystod y Nadolig eleni wrth waredu hen ddyfeisiau a gemau cyfrifiadurol.
- Lleihau Gwastraff Bwyd Ac Arbed Arian Dros Yr Ŵyl
Mae cartrefi yng Nghymru yn cael eu hannog i fod yn fwy ymwybodol o wastraff y Nadolig hwn i arbed arian ar eu biliau bwyd dros yr ŵyl.
- Cymru’n uno gydag ymdrech Ewrop i leihau gwastraff
Fel rhan o’r Wythnos Ewropeaidd Lleihau Gwastraff (EWWR) gyntaf erioed, anogir pobl ar draws Cymru i wneud eu gorau i helpu’r amgylchedd yr wythnos hon (21-27 Tachwedd 2009).
- Craff am Wastraff yn lansio ymgyrch hysbysebu newydd
Ddydd Llun 16 Tachwedd, bydd ymgyrch hysbysebu fwyaf deifiol a thrawiadol cynllun Craff am Wastraff yn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf.
- Gweler mwy o newyddion ar Twitter
http://twitter.com/Ailgylchu_Gymru
- Arbed arian a diogelu'r amgylchedd trwy ailgylchu gwisg ysgol
Mae Cynllun 'Craff am Wastraff' yn annog rhieni i ailgylchu gwisg ysgol eu plant fel y gallan nhw arbed arian a helpu i ddiogelu'r amgylchedd fel ei gilydd.
- Hwyl a haf diwastraff
Wrth i deuluoedd ledled Cymru edrych ymlaen at ddyddiau braf o haf ar y traeth, barbiciws blasus a dyddiau’n mwynhau cefn gwlad, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog pobl i feddwl yn wyrdd wrth gynllunio eu gweithgareddau’r haf hwn.
- Nid yw tirlenwi yn bosibilrwydd bellach yng Nghymru.
Nid yw tirlenwi yn bosibilrwydd bellach yng Nghymru. Mae’r lle sydd ar gael yn prinhau ac mae cynghorau’n wynebu dirwyon a thargedau caeth o ran claddu llai o sbwriel, yn ogystal â bodloni targedau ailgylchu anodd Llywodraeth y Cynulliad. Yn amlwg, rhaid i ni gydweithio i ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint â phosib a lleihau ein gwastraff. A hithau’n Wythnos Ailgylchu Cymru, mae’r Cynghorydd Aled Roberts, sef Cadeirydd Craff am Wastraff wedi bod yn bwrw golwg ar sut mae cynghorau lleol yn datblygu eu gwasanaethau casglu a phrosesu gwastraff i geisio datrys yr argyfwng amgylcheddol yn lleol.
- Peidiwch â thaflu eich teledu…
Defnyddwyr yng Nghymru’n cael eu hannog i ailgylchu neu ailddefnyddio eu nwyddau trydanol dieisiau
Rydyn ni’n ailgylchu mwy o wastraff nag erioed o’r blaen yma yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni wedi sylweddoli bod yn rhaid i ni arbed adnoddau prin y ddaear ac rydyn ni bellach wedi hen arfer didoli ein sbwriel i ofalu nad oes papur, gwydr, cerdyn neu blasting o unrhyw fath yn ein biniau.
- Ailddefnyddio ac ailcylchu wrth lanhau yn ystod y gwanwyn
Wrth i gynllun ‘Craff am Wastraff’ ddathlu ei chweched pen-blwydd yn ystod y mis (Mawrth), mae’n annog pobl i fynd ati eleni i ystyried chwe ffordd o ailddefnyddio ac ailgylchu eitemau o’u cartrefi wrth lanhau dros y gwanwyn.
- Traethawd Ailgylchu
Wrth i brisiau gwael rhai deunyddiau ailgylchadwy yn y farchnad fyd-eang barhau i sbarduno sibrydion bod awdurdodau lleol Cymru’n pentyrru gwastraff, rhoddodd y Cynghorydd Aled Roberts, Cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’, ddiwedd ar y sibrydion hynny.
- Gwasanaeth ar-lein newydd i hybu’r arfer o ailddefnyddio ac ailgylchu
Heddiw, ail-lansiodd cynllun ‘Craff am Wastraff’ ei leolwr banciau ailgylchu ar-lein i’w gwneud hi’n haws fyth i bobl Cymru gael gwybodaeth am sut i ailddefnyddio ac ailgylchu amrywiaeth eang o eitemau’r cartref yn eu hardal.
- Dymunwn Nadolig craff am wastraff i chi i gyd
Wrth i baratoadau’r Nadolig gychwyn o ddifrif, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog siopwyr prysur i beidio â gwastraffu dros yr ŵyl.
- CALENDR CEWYNNAU GO IAWN
Mae tri ar ddeg o fabanod o bob cwr o Gymru wedi’u dewis ar gyfer calendr sy’n hybu’r defnydd o gewynnau go iawn yng Nghymru.
- Gweinidog yn Cefnogi Ymgyrch Newydd
Mae’n bleser gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Jane Davidson AC, lansio ymgyrch hysbysebu genedlaethol newydd Cynllun Craff am Wastraff. Bwriad yr ymgyrch, sy’n cychwyn heddiw, yw galluogi pobl o bob cwr o Gymru i gyrraedd lefel uwch wrth arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.
- Nôl i'r ysgol gyda bocs bwyd diwastraff
Wrth i blant ledled Cymru baratoi i fynd yn ôl i’r ysgol, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog rhieni i roi bocs bwyd diwastraff iddyn nhw er mwyn cynorthwyo i leihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi Cymru bob blwyddyn.
- Defnyddwyr Cymru yn ymateb i’r neges ailgylchu
Yn ôl y gwaith ymchwil diweddaraf* ar ran cynllun ‘Craff am Wastraff’, mae’r ymgyrch diweddar o hysbysebion teledu ‘recycle for Wales/ailgylchu dros Gymru’ yn helpu i bwysleisio’r neges ailgylchu ymhlith defnyddwyr ledled Cymru. Mae’r canlyniadau hyn yn cefnogi bwletin Cyflwr yr Amgylchedd 2008 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fis diwethaf, sy’n dangos bod pobl Cymru’n ailgylchu mwy erbyn hyn.
- Dim Dilla Newydd – Dim Ffasiwn Beth!
If the credit crunch is curbing your passion for fashion as you try to resist the lure of this summer’s sales, don’t despair. Waste Awareness Wales has the perfect solution for guilt-free shopping – the clothes swapping party.
- Lansio Canllawiau Ailgylchu
Cafodd canllawiau newydd i helpu trefnwyr i gynnig cyfleusterau ailgylchu llwyddiannus mewn digwyddiadau eu lansio yn y Sioe Fawr eleni gan Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn Llywodraeth y Cynulliad.


