Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Sir Fynwy

Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig dau gynllun ar gyfer casglu pethau i’w hailgylchu oddi ar ymyl y pafin:

  • Mae Cynllun Ailgylchu’r Bagiau Coch a Phorffor yn casglu tuniau, jariau, ffoil, caniau, chwistrelli, papur, cardfwrdd, llythyrau sgrwtsh, cyfeirlyfrau ffôn a chatalogau bob wythnos.

  • Mae Cynllun Ailgylchu Gwastraff o’r Ardd a’r Gegin yn casglu gwastraff o’r ardd, baw anifeiliaid anwes nad ydyn nhw’n bwyta cig, darnau mawr o gardfwrdd, papur wedi’i dorri’n fân (rhowch hwnnw yn y bag gwyn os bydd modd) a phob math o fwyd sy’n wastraff bob wythnos.

Mae’r cynlluniau ar gael yn ôl ble rydych chi’n byw yn y sir gan fod rhai ardaloedd gwledig heb eu cynnwys eto. Mae rhagor o wybodaeth gan Swyddog Ailgylchu Cyngor Sir Fynwy: 01633 644119 neu recycling@monmouthshire.gov.uk

Banciau danfon 

Mae 46 o safleoedd yn Sir Fynwy lle cewch chi adael amryw ddeunyddiau megis papur, gwydr, caniau, ffoil, llyfrau, esgidiau a dillad.  Mae modd cael rhagor o fanylion trwy ddefnyddio’n chwiliadur ni.

Canolfannau ailgylchu gwastraff o’r cartref

Mae pedair canolfan o’r fath yn y sir:-

  • Llan-ffwyst Fawr
  • Five Lanes
  • Mitchel Troy
  • Brynbuga

Mae’r safleoedd ar agor rhwng 8 o’r gloch y bore a 6 o’r gloch yr hwyr bob dydd ar wahân i Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.  Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Sir Fynwy.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Fynwy.

Cyfeiriad