Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Ffeithiau allweddol
Sut wastraff!
Cafodd tua 1.79 miliwn tunnell o wastraff trefol ei gasglu gan yr awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod 2007/08.
Ble mae'n mynd?
- Mae 31.8% yn cael ei ailgylchu neu gompostio
- Mae llai na 1% yn cael ei ddefnyddio i adfer gwres a phŵer.
- Mae dros 68% yn cael ei gladdu
Mae'n bosibl ailgylchu dros 60% o wastraff ein cartrefi. O ailgylchu, felly, byddwch chi'n helpu i gwtogi ar faint sy'n cael ei gladdu.
Gwastraff cartrefi: Cynyddodd cyfanswm gwastraff cartrefi Cymru at 537 kg y pen yn 2004-05 o'i gymharu â 518 kg y pen yn 2003-04*.
Claddu: Mae amcangyfrif bod 3.6 miliwn o dunelli o'r sbwriel i'w drin yn ôl gofynion y gyfraith (28%) wedi'u claddu yn ystod 2002-03*.
Ailgylchu a chompostio gwastraff cartrefi: Mae'n bwysig inni helpu timau gwastraff ein cynghorau ac ailgylchu cymaint ag y bo modd. Yn ôl ffigurau diweddar, 27.6% o wastraff trefol gafodd ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2006-07, o'i gymharu â 12.6% yn 2002-03.
*(Ffynhonnell: Dangosyddion Datblygu Cynaladwy Cymru 2006, Cynulliad Cenedlaethol Cymru)


