Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Ffeithiau allweddol
Gwastraff Bwyd
- Yng Nghymru rydym yn taflu 330,000 o dunelli o fwyd i ffwrdd bob blwyddyn.
Bagiau plastig - Dim ond ar ôl 500 mlynedd bydd bag plastig yn pydru mewn tomen. Rydyn ni'n defnyddio 500 miliwn ohonyn nhw bob wythnos - cofiwch hynny wrth dderbyn bagiau plastig yn y siop.
- Rydyn ni'n cynhyrchu 10 biliwn o fagiau plastig bob blwyddyn.
- Pe baen ni'n eu dodi benben, bydden nhw'n ymestyn i'r lleuad ac yn ôl bum gwaith.
- Mae 80% o bobl y DG yn rhoi popeth mewn bagiau plastig wrth siopa.
- Mae pobl y DG yn taflu 100,000 o dunelli o fagiau plastig bob blwyddyn - cymaint â phwysau 70,000 o geir.
(Ffynhonnell: Recycle now) - Bob blwyddyn, mae archfarchnadoedd yn rhoi oddeutu 17½ biliwn o fagiau plastig i'w cwsmeriaid. Mae hynny'n gyfystyr â dros 290 o fagiau i bob un sy'n byw yn y D.U. (Ffynhonnell: Waste Online)
Y gwir am lythyrau sgrwtsh
- Mae angen 17 coeden, 7,000 o alwyni o ddŵr a 390 o alwyni o olew i gynhyrchu tunnell o lythyrau sgrwtsh.
- O gymryd camau nawr a dileu'ch enw o gronfeydd data cwmnïau masnachol, gallwch chi helpu i gwtogi ar nifer y llythyrau dieisiau.
Y gwir am gewynnau go iawn
- Bydd angen tua 2,000 o gewynnau ar eich plentyn bob blwyddyn.
- Bydd eich plentyn yn defnyddio tua 5,000 o gewynnau cyn rhoi'r gorau iddyn nhw!
- Gallwch chi arbed £500 trwy ddewis cewynnau go iawn.
Y gwir am gompostio gartref
- Gwastraff y gegin, papur a chardfwrdd yw 30% o'ch sbwriel, ac mae modd compostio'r cyfan.
Eco-'Sgolion
- Mae dros 1500 o ysgolion Cymru wedi'u cofrestru yn Rhaglen yr Eco-'Sgolion.

