Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Ffeithiau allweddol
Mae'r ystadegau isod yn Adroddiad Rheoli Gwastraff Trefol 2008-09 Llywodraeth y Cynulliad
- 1,7 miliwn o dunelli yw cyfanswm y gwastraff trefol (heb gynnwys cerbydau wedi'u gadael) greodd Cymru dros 2008-09. Felly, mae gwastraff trefi wedi parhau i ostwng dros y 4 blynedd diwethaf.
- Mae canran y gwastraff trefol (heb gynnwys cerbydau wedi'u gadael) sydd wedi'i ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yng Nghymru wedi cynyddu drwy'r amser ers 2000-01. Ar ben hynny, mae canran 2008-09 (37%) dros bum gwaith yn fwy nag un 2000-01 (7%). Er ein bod yn croesawu hynny, mae angen eich cymorth o hyd i helpu i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu rhagor o'ch gwastraff.
- Er bod y rhan fwyaf o wastraff trefol yn cael ei gladdu o hyd, mae'r ganran honno wedi bod yn gostwng ers 7 mlynedd.
- 132,319 o dunelli yw cyfanswm y gwastraff gafodd ei ailgylchu neu ei gompostio rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2009 o'i gymharu â 123,493 yn ystod y cyfnod cyfatebol yn 2007-08 (cynnydd o 8,826 o dunelli).
- 75kg y pen yw cyfanswm y gwastraff gweddilliol (cynnwys y bagiau duon) greodd cartrefi'r wlad ar gyfartaledd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2009 o'i gymharu ag 85kg y pen yn ystod y cyfnod cyfatebol yn 2007-08.
Mae Llywodraeth y Cynulliad am inni gael gwared ar 70% o'n gwastraff mewn ffyrdd amgen na'i gladdu erbyn 2024/25. Dim ond gyda'ch cymorth chi y gallwn ni wneud hynny.
Ffynonellau:
- Adroddiad Rheoli Gwastraff Trefol Cymru 2008-09
- Bwletin Rheoli Gwastraff Trefol hyd at ddiwedd cyfnod trimisol 4 (Ionawr - Mawrth) 2008-09, Llywodraeth Cynulliad
- Datganiad Rheoli Gwastraff, Ystadegau Cymru, Ebrill - Mehefin 2009


