Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Yr Hierarchaeth Wastraff

Y ffordd orau o reoli ein gwastraff yw peidio â’i gynhyrchu yn y lle cyntaf.

Ar ôl hynny, dylem arbed, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwerth o’n gwastraff lle bynnag bo’n bosibl.

Mae’r ‘hierarchaeth wastraff’ yn nodi’r ffyrdd gorau o waredu gwastraff ac yn eu gosod mewn trefn yn ôl eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae’r opsiynau sydd agosaf at frig yr hierarchaeth yn fwy dymunol na’r opsiynau sydd agosaf i’r gwaelod.

Canllaw yn unig yw’r hierarchaeth.Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen cyfuno opsiynau er mwyn rheoli’r gwahanol wastraff a gynhyrchir yn y cartref ac yn y gwaith.


Yr Hierarchiaeth Wastraff (Cym)

Mae llawer o gyfleoedd i ni gynhyrchu llai o wastraff, arbed arian a chefnogi diwydiant yng Nghymru trwy ddefnyddio’r adnoddau materol gwerthfawr sydd mewn gwastraff.  

Mae angen i bawb ohonom feddwl am y pethau yr ydym yn eu prynu, eu defnyddio a’u taflu i ffwrdd.

A oes rhaid i ni brynu pethau sydd â llawer o ddeunydd pacio amdanynt? A allwn ni ailddefnyddio pethau eto? Mae’n rhaid i bawb ohonom gyfrannu’n llawn at gynlluniau ailgylchu, casglu ac ailddefnyddio lleol er mwyn sicrhau nad yw adnoddau gwerthfawr yn cael eu cario i safleoedd tirlenwi.

Bookmark and Share