Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Sir y Fflint

Casgliadau o ymyl y ffordd
Mae Sir y Fflint yn cynnig casgliad bocs glas bob yn ail wythnos ar gyfer caniau, poteli a jariau gwydr, poteli plastig, tecstilau a phapur. Hefyd mae preswylwyr yn cael casgliad bin brown ar gyfer gwastraff o’r ardd, mae hwn yn cael ei gasglu bob yn ail wythnos yn yr haf a bob mis yn ystod y gaeaf. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint.

Safleoedd Banciau Danfon
Mae 30 Safle Banciau Danfon yn Sir y Fflint yn casglu ystod o wahanol ddefnyddiau gan gynnwys papur, gwydr, caniau, esgidiau a thecstilau.  I gael manylion am eich safle agosaf defnyddiwch ein chwiliwr safleoedd

Safleoedd Amwynderau Dinesig
Mae gan Sir y Fflint 7 Safle Amwynderau Dinesig:

  • Bwcle
  • Cei Connah
  • Y Fflint
  • Yr Hob
  • Yr Wyddgrug
  • Y Fferi Isaf
  • Saltney

Mae’r safleoedd ar agor rhwng 8am a 8pm (mis Ebrill tan fis Medi) a rhwng 8am a 6pm (mis Hydref tan fis Mawrth) 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir y Fflint neu ewch i'w gwefan.

Cyfeiriad
  • Tîm Ailgylchu
    Storfa’r Fferi Isaf
    Heol Ddwyrain i Gaer
    Y Fferi Isaf
    Glannau Dyfrdwy
    CH5 1TD

  • Desg Ymholiadau Ailgylchu
  • 01352 702426
  • recyling@flintshire.gov.uk